Angen Help?

Y Comisiynydd yn ymateb i sylwadau oedraniaethol a gododd mewn tystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y DU

i mewn Newyddion

Y Comisiynydd yn ymateb i sylwadau oedraniaethol a gododd mewn tystiolaeth i Ymchwiliad Covid-19 y DU

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Cefais fy nychryn gan yr agweddau oedraniaethol a dideimlad at bobl hŷn a gododd mewn adroddiadau o drafodaethau ymysg uwch swyddogion a gwleidyddion Llywodraeth y DU a gafodd eu rhannu ag Ymchwiliad Covid-19 y DU ddoe.”

“Ers clywed y dystiolaeth, rydw i wedi bod yn meddwl am bobl hŷn a’u teuluoedd ar hyd a lled y wlad a fydd yn flin ac wedi’u siomi gan awgrymiadau nad oedd hi’n werth diogelu’r rheini a oedd fwyaf mewn perygl o Covid-19, bod y bywydau hyn yn cael eu hystyried yn rhai dibwys.

“Fel Comisiynydd Pobl Hŷn annibynnol Cymru, byddaf yn parhau i herio oedraniaeth, gan weithio gyda chyrff cyhoeddus a chraffu arnynt, gan ei bod yn hanfodol nad oes lle i ragdybiaethau oedraniaethol am bobl hŷn ddylanwadu ar bolisïau, arferion a phenderfyniadau.”

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges