Wrth ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ynghylch y cymorth ariannol a fydd yn cael ei ddarparu i helpu i fynd i’r afael â’r argyfwng costau byw yng Nghymru, dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Er y bydd y taliad costau byw o £150 a gyhoeddwyd heddiw yn darparu rhywfaint o gymorth i bobl hŷn, nid yw’n mynd yn ddigon pell i’r rheini a allai wynebu cynnydd trychinebus yn eu costau byw.
“Rwy’n siomedig bod y cynlluniau presennol yn dal i eithrio pobl hŷn sy’n hawlio Credyd Pensiwn, er gwaethaf fy ngalwadau a’r galwadau gan nifer cynyddol o sefydliadau eraill i Lywodraeth Cymru ehangu cymhwysedd ei Chynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.
“Mae hyn yn golygu y bydd degau ar filoedd o bobl hŷn yng Nghymru sy’n byw ar yr incwm isaf yn colli allan. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i newid ei pholisi er mwyn i bobl hŷn sy’n hawlio Credyd Pensiwn allu cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt i gadw eu hunain yn ddiogel ac yn gynnes.
“Ochr yn ochr â hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd ddyblu ei hymdrechion i godi ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn i sicrhau bod cynifer o bobl hŷn â phosibl yn hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl gyfreithiol i’w gael.
“Ni chafodd dros £200 miliwn o Gredyd Pensiwn ei hawlio yng Nghymru y llynedd, ac nid wyf wedi fy argyhoeddi eto bod y cynigion a gyflwynwyd hyd yma i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn yn ddigon i wneud gwahaniaeth sylweddol.
“Ar ben hynny, rwy’n poeni nad yw’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Gronfa Cymorth Dewisol yn ddigon eang i gefnogi’r holl bobl hŷn y gallai fod angen cymorth ariannol arnynt.
“Bydd methu â chymryd camau pellach i gefnogi pobl hŷn drwy’r gaeaf hwn yn arwain at filoedd lawer o bobl hŷn ar hyd a lled Cymru yn dioddef o gyflyrau iechyd corfforol, pryder a achosir gan straen ariannol, ac yn anffodus, at lawer o dderbyniadau diangen i’r ysbyty.”