Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi methu ei tharged i frechu 70% o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal a phobl dros 80 oed. Mae llawer o bobl hŷn a’u teuluoedd ledled Cymru wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon am y broses frechu, yn enwedig ei chyflymder a’i maint, a bydd hyn yn siom enfawr iddynt.
“Mae’n hanfodol bod pob cam posibl yn cael ei gymryd nawr i sicrhau bod targedau Llywodraeth Cymru i frechu pawb sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal erbyn diwedd mis Ionawr yn cael eu cyflawni, a bod modd cyrraedd pawb dros 70 oed erbyn canol mis Chwefror.
“Rwyf yn llwyr sylweddoli maint y dasg sydd ar y gweill a hoffwn ddiolch i dimau brechu ledled Cymru – rwy’n gwybod eu bod yn gweithio’n eithriadol o galed. Ond mae pob dos o’r brechlyn sy’n cael ei roi i bobl hŷn yn lleihau’r risg i’r rheini sydd yn y mwyaf o berygl o fynd yn ddifrifol wael yn sgil y coronafeirws, felly mae’n hanfodol bod brechiadau’n cael eu rhoi i’r rheini mewn grwpiau blaenoriaeth cyn gynted â phosibl.
“Byddaf yn parhau i fonitro’r broses o gyflwyno’r brechlyn yng Nghymru yn ofalus, a byddaf yn cadw mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru a Bwrdd Rhaglen Brechlyn COVID-19 yn rheolaidd er mwyn codi unrhyw bryderon sydd gennyf a sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ac y gweithredir ar yr hyn y maen nhw’n ei ddweud.”