Angen Help?
Calendar page flipping sheet

Y Comisiynydd yn rhybuddio y gallai’r dyddiad cau ar gyfer hawlio Credyd Pensiwn olygu bod pobl hŷn yn colli’r cyfle i gael taliadau costau byw hanfodol gwerth cannoedd o bunnoedd

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn annog pobl hŷn ar incwm isel i edrych i weld a ydynt yn gymwys i gael Credyd Pensiwn a gwneud cais ar unwaith i sicrhau nad ydynt yn colli’r cyfle i gael taliad costau byw diweddaraf Llywodraeth y DU.

Amcangyfrifir nad yw hyd at 80,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn cael y Credyd Pensiwn y mae ganddynt hawl iddo, sy’n golygu eu bod yn colli’r cyfle i gael cymorth ariannol hanfodol, yn ogystal â hawliau ychwanegol fel gostyngiadau yn y dreth gyngor a chymorth gyda chostau tai, gofal deintyddol a gofal llygaid am ddim, a Thrwyddedau Teledu am ddim i bobl 75 oed a hŷn.

Eleni, bydd pobl hŷn sy’n gymwys i gael Credyd Pensiwn ond nad ydynt wedi gwneud cais amdano erbyn 18 Rhagfyr hefyd yn colli’r cyfle i gael y taliad costau byw o £324 sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU i bobl ar fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Mae effaith yr argyfwng costau byw yn peryglu iechyd llawer o bobl hŷn ledled Cymru wrth iddyn nhw dorri’n ôl ar hanfodion mewn ymdrech i arbed arian wrth i ni wynebu gaeaf anodd arall.

“Dyna pam ei bod mor bwysig bod pobl hŷn yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo, fel Credyd Pensiwn, sy’n werth £65 yr wythnos ar gyfartaledd i’r rheini sy’n ei hawlio ac yn datgloi ystod o hawliau pwysig eraill sy’n darparu rhagor o gymorth.

“Amcangyfrifir, fodd bynnag, bod hyd at 80,000 o bobl hŷn yng Nghymru yn colli’r cyfle i gael Credyd Pensiwn gwerth cyfanswm o £200 miliwn a allai wneud gwahaniaeth cadarnhaol i’w bywydau. Dylai’r arian hwn fod ym mhocedi pobl hŷn, ac ni ddylid ei adael heb ei hawlio yn y Trysorlys yn San Steffan.

“Ac eleni, bydd pobl hŷn nad ydynt yn cael Credyd Pensiwn er eu bod yn gymwys i’w gael hefyd yn colli’r cyfle i gael taliad costau byw ychwanegol gwerth £324 gan Lywodraeth y DU, a allai hefyd wneud gwahaniaeth mawr i gyllid pobl wrth i chwyddiant a chostau byw barhau i gynyddu.

“Felly rwy’n galw ar bobl hŷn gydag incwm o lai na £182.60 yr wythnos i edrych i weld a ydynt yn gymwys i gael Credyd Pensiwn a’i hawlio erbyn 18 Rhagfyr i wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n colli eu cyfle.

“Er bod y broses yn gallu ymddangos yn frawychus, mae cymorth ar gael gan amrywiaeth o sefydliadau – gan gynnwys Age Cymru, Age Connects a Chyngor ar Bopeth – sy’n gallu tywys pobl hŷn drwy bob cam o’r broses.”

Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw ar unigolion a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan ledled Cymru i wneud popeth yn eu gallu i godi ymwybyddiaeth o Gredyd Pensiwn ac annog pobl hŷn sy’n gymwys i hawlio’r hyn sy’n ddyledus iddyn nhw.

Mae hi’n gofyn i bobl ymuno â hi i wneud Addewid Credyd Pensiwn, i dynnu sylw at y camau y byddan nhw’n eu cymryd – dim ots pa mor fawr neu fach – i helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn yn colli’r cyfle.

Ychwanegodd y Comisiynydd:

“Rwy’n falch bod ymateb cadarnhaol eisoes wedi bod i’m galwad ar bobl i wneud eu Haddewid Credyd Pensiwn, ac rydym wedi sicrhau addewidion gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS; y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS; ac Aelodau o’r Senedd ac Aelodau Seneddol eraill; a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl hŷn.

“Drwy dynnu sylw at y camau sy’n cael eu cymryd a’u rhannu, rwyf eisiau ysbrydoli ac annog camau pellach i gyrraedd pobl hŷn mewn cymunedau ledled Cymru.

“Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth cadarnhaol i filoedd o fywydau drwy helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn sy’n byw ar yr incwm isaf – llawer ohonynt ymhlith aelodau mwyaf agored i niwed cymdeithas – yn colli’r cyfle i gael cymorth y mae ganddynt hawl iddo.”

DIWEDD

Gwnewch eich Addewid Credyd Pensiwn

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges