Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi rhoi croeso brwd i’r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog ynghylch penodi Gweinidog Pobl Hŷn i Gymru am y tro cyntaf ers 15 mlynedd. Bydd hyn yn codi proffil materion sy’n ymwneud â phobl hŷn yn sylweddol yn Llywodraeth Cymru.
Gwnaeth y Prif Weinidog y cyhoeddiad yn lansiad Adroddiad Etifeddiaeth y Comisiynydd, a gynhaliwyd heddiw yn y Senedd. Roedd y digwyddiad hwn yn dathlu gwaith y Comisiynydd i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru ac i sbarduno newid ar eu rhan yn ystod y chwe blynedd diwethaf.
Ochr yn ochr â chyhoeddiad y Prif Weinidog, cyhoeddodd Huw Irranca Davies AC, y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, bod Llywodraeth Cymru am weithredu mewn nifer o feysydd i warchod a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, mewn ymateb i alwadau gan y Comisiynydd.
Dywedodd Sarah Rochira, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: “Rydw i’n falch iawn y bydd pobl hŷn yn cael eu cydnabod yn swyddogol mewn portffolio Gweinidogol, a hynny am y tro cyntaf er dros ddegawd. Bydd hyn yn codi proffil materion sy’n effeithio ar eu bywydau yn sylweddol yn Llywodraeth Cymru.
“Rydw i hefyd yn rhoi croeso brwd i gyhoeddiad y Gweinidog ynghylch ystod o gamau gweithredu y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn eu cymryd mewn ymateb i fy ngalwadau i warchod a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yng Nghymru.
Cyhoeddodd y Gweinidog eu bod am gymryd camau i wella’r defnydd o Egwyddorion y Cenhedloedd Unedig ar gyfer Pobl Hŷn ar draws gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ochr yn ochr â chamau i edrych ar sut mae gwella trefniadau diogelu, eiriolaeth a’r ffordd mae gwasanaethau ar gyfer pobl hŷn yn cael eu comisiynu.
Ychwanegodd y Comisiynydd: “Rydw i’n falch iawn o’r hyn mae fy nhîm a minnau wedi’i gyflawni ar ran pobl hŷn yn ystod y chwe blynedd diwethaf, fel y nodir yn yr adroddiad etifeddiaeth rydw i wedi’i gyhoeddi heddiw. Wrth gwrs, mae angen gwneud llawer mwy o hyd, ond mae cyhoeddiadau heddiw yn gam arwyddocaol ymlaen.
“Bydd cyhoeddiadau heddiw yn golygu llawer iawn i bobl hŷn ledled Cymru hefyd, ac maent yn dangos ymrwymiad gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru i weithredu i wella bywydau pobl hŷn ac i wneud Cymru yn lle da i heneiddio – nid dim ond i ambell un, ond i bawb.”
Huw Irranca-Davies AC, Y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gwasanaethau Cymdeithasol, yn nodi’r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn gwireddu hawliau i bobl hŷn.