Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ymuno â sefydliadau allweddol sy’n poeni am effaith y cynnydd cyflym mewn costau byw i gyhoeddi Cynllun 5 pwynt sy’n nodi’r camau y mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod pobl hŷn sy’n byw ar yr incymau isaf yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt y gaeaf hwn a’r flwyddyn nesaf, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ôl wrth i Gymru wynebu argyfwng costau byw.
Mae’r Comisiynydd wedi datblygu Cam Gweithredu 5 Pwynt gyda chefnogaeth gan sefydliadau gan gynnwys Age Cymru, Sefydliad Bevan, Gofal a Thrwsio Cymru, Cyngor ar Bopeth Cymru, National Energy Action Cymru ac Oxfam Cymru.
Wrth gyhoeddi’r cynllun, mae’r Comisiynydd wedi rhybuddio bod perygl y bydd penderfyniad Llywodraeth Cymru i barhau i eithrio pobl hŷn sy’n cael Credyd Pensiwn o’i Chynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf yn gwaethygu’r anghydraddoldebau presennol a pheryglu iechyd a lles rhai o’r bobl hŷn mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Mae’r cynllun 5 pwynt yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd y camau gweithredu canlynol:
- Ymestyn y meini prawf cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i bobl hŷn sy’n hawlio Credyd Pensiwn, ac ymestyn y dyddiad cau ar gyfer y cynllun presennol i alluogi pobl i hawlio cyn gynted â phosibl.
- Cadw’r cymhwysedd hwn ar gyfer yr ail daliad a fydd yn cael ei wneud yn ddiweddarach eleni, a sicrhau bod y taliad hwn yn cael ei wneud cyn y gaeaf i arbed aelwydydd rhag gorfod dogni eu defnydd o ynni.
- Cyhoeddi cynllun i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn, sy’n amlinellu’r targedau allweddol i’w cyrraedd. Dylai’r cam gweithredu gynnwys ymgyrch gyfathrebu wedi’i thargedu’n benodol at bobl hŷn, a chefnogaeth i fudiadau lleol i helpu pobl hŷn i hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.
- Codi ymwybyddiaeth o’r Gronfa Cymorth Dewisol i sicrhau bod pobl hŷn yn gwybod sut gallant hawlio, a symleiddio ac ehangu’r meini prawf cymhwysedd i gefnogi mwy o aelwydydd. Dylent hefyd gyhoeddi data ar niferoedd er mwyn i ni ddeall pwy sy’n hawlio a phwy sydd angen eu targedu i godi ymwybyddiaeth.
- Datblygu cynllun gweithredu ar gyfer gaeaf 2022-23 i fynd i’r afael ag effeithiau negyddol ehangach tlodi tanwydd, gan gynnwys ehangu rhaglenni i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl hŷn a sicrhau bod cymorth a chyngor priodol yn cael eu paratoi cyn y cynnydd pellach a ddisgwylir mewn costau.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n hynod siomedig, er gwaethaf fy nghalwadau, a galwadau gan nifer cynyddol o sefydliadau arbenigol eraill, a thystiolaeth glir am raddfa tlodi ymysg pobl hŷn a’r effaith y mae hyn yn ei chael ar fywydau pobl, bod Llywodraeth Cymru yn parhau i eithrio pobl hŷn sy’n cael Credyd Pensiwn o’i Chynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf.
“Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn dechrau ystyried y gefnogaeth fydd ei hangen y gaeaf nesaf, ond mae’n ymddangos ei bod yn anwybyddu’r sefyllfa enbyd y mae llawer o bobl hŷn yn ei hwynebu’r gaeaf hwn a’r effaith y bydd hyn yn ei chael yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.
“Dyna pam fy mod yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu’r Cynllun Gweithredu 5 pwynt rwyf wedi’i ddatblygu gyda chefnogaeth sefydliadau allweddol eraill i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt – drwy’r Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a’r Gronfa Cymorth Dewisol – ac yn cael y budd-daliadau ariannol y mae ganddynt hawl iddynt, fel Credyd Pensiwn.
“Os na fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd y camau hyn, bydd llawer o bobl hŷn yn cael eu gadael ar ôl wrth i Gymru wynebu’r argyfwng costau byw a bydd iechyd a lles degau o filoedd o bobl hŷn ar yr incymau isaf, a allai fod yn arbennig o agored i niwed ac sydd leiaf abl i ymdopi â chostau byw cynyddol, yn cael eu rhoi mewn perygl sylweddol, ac mae hyn yn gwbl annerbyniol.”