Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Y Comisiynydd yn hynod siomedig â’r penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rydw i’n hynod siomedig bod y cynnig i fwrw ymlaen â’r ddeddfwriaeth newydd i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn yng Nghymru wedi cael ei wrthod ddoe yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i’w wrthwynebu. Yn sgil canlyniadau’r bleidlais ddoe, collwyd y cyfle i wneud hawliau’n real i bobl hŷn. 

“Bydd pobl hŷn ledled Cymru yn teimlo’n siomedig a byddant, yn ddi-os, yn cwestiynu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddiogelu a hyrwyddo eu hawliau. 

“Byddai’r ddeddfwriaeth arfaethedig wedi bod yn gam hollbwysig at roi dull gweithredu ar waith ledled Cymru sy’n seiliedig ar hawliau, a fyddai’n sicrhau bod llunwyr polisïau a phenderfyniadau yn canolbwyntio’n fwy ar hawliau ac anghenion unigolion.

“Yn ogystal â hyn, byddai’r ddeddfwriaeth wedi sicrhau bod gan bobl hŷn fwy o degwch a chydraddoldeb â grwpiau eraill sy’n wynebu’r risg o wahaniaethu. Byddai hefyd wedi codi proffil hawliau pobl hŷn yn sylweddol ac egluro pwysigrwydd parchu’r hawliau hynny. 

“Mae angen i Lywodraeth Cymru nawr nodi’r union gamau y bydd yn eu cymryd i ddiogelu a hyrwyddo hawliau pobl hŷn, ar ôl gwrthod y cyfle i Gymru fod ar flaen y gad ar y mater hollbwysig hwn drwy gyflwyno deddfwriaeth a fyddai wedi torri tir newydd. 

“Rydw i wedi ysgrifennu at Brif Weinidog Cymru i fynegi fy siom a’m pryderon ynghylch ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau pobl hŷn a byddaf yn craffu’n ofalus ar eu cynigion amgen i sicrhau y byddant yn rhoi gwelliannau ystyrlon ar waith i bobl hŷn.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges