Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi codi pryderon ynghylch effaith gohirio ymweliadau â chartrefi gofal ar iechyd, ar lesiant ac ar ansawdd bywyd pobl hŷn. Mae hi hefyd wedi galw am weithredu er mwyn i ymweliadau allu parhau gyda mesurau priodol ar waith i sicrhau diogelwch y preswylwyr a’r staff.
Gyda chyfyngiadau lleol yn cael eu cyflwyno mewn rhagor o awdurdodau lleol yng Nghymru, mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi datganiad sefyllfa sy’n nodi pam bod cyswllt wyneb yn wyneb rhwng pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal a’u hanwyliaid mor bwysig, yn enwedig i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed, a pham y dylid penderfynu ar ymweliadau fesul achos, yn hytrach na chyflwyno penderfyniadau cyffredinol.
Mae ar y Comisiynydd eisiau i awdurdodau lleol a swyddogion iechyd y cyhoedd weithio gyda darparwyr gofal i feddwl pa gamau gellid eu cymryd i reoli’r risgiau posibl a galluogi ymweliadau i barhau’n ddiogel ar draws Cymru.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n gallu deall pam mae timau rheoli heintiau lleol am gymryd pob gofal sy’n angenrheidiol yn eu barn nhw i amddiffyn pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a pham y gallai gwaharddiad cyffredinol ar ymweld ymddangos yn briodol o dan yr amgylchiadau presennol.
“Fodd bynnag, o ystyried yr effaith sylweddol a hirdymor y bydd atal ymweliadau yn ei chael ar iechyd a lles pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, rhaid inni gwestiynu a yw’r dull hwn yn gymesur ac yn gyfiawn.
“Mae’n hanfodol bod y risgiau i breswylwyr a staff y gellid trosglwyddo Covid o ganlyniad i ymweliadau yn cael eu hystyried yn erbyn y risg i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal os bydd eu hiechyd corfforol a meddyliol yn dirywio o ganlyniad i gael eu cadw ar wahân yn hir oddi wrth y rheini sy’n golygu’r mwyaf iddyn nhw.
“Drwy ddefnyddio dull mwy unigol, ac asesu’r risg i bobl ac i leoedd fesul achos, gallai fod cyfleoedd i alluogi ymweliadau lle’r aseswyd y gellid rheoli risgiau posibl i breswylwyr a staff drwy fesurau fel defnyddio cyfarpar diogelu personol, cadw pellter cymdeithasol a hylendid, a chynnal ymweliadau mewn mannau awyr agored.”
Mae’r datganiad cadarnhaol yn cwestiynu a fyddai cefnogaeth well i gartrefi gofal a staff, mwy o brofion, newidiadau i amgylcheddau cartrefi gofal, a chydnabod bod aelodau o’r teulu yn ‘ymwelwyr dynodedig’ – gyda mynediad at brofion, cyfarpar diogelu personol a hyfforddiant – yn gallu sicrhau dull gweithredu sy’n galluogi a fyddai’n caniatáu i ymweliadau barhau’n ddiogel.
Mae’r Comisiynydd hefyd wedi galw ar Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ystyried pa gefnogaeth a chanllawiau pellach gellid eu rhoi i ddarparwyr gofal ac awdurdodau lleol er mwyn gallu cynnal ymweliadau diogel.
Ychwanegodd y Comisiynydd:
“Rwy’n gwybod bod llawer iawn o waith wedi cael ei wneud dros yr haf i gefnogi ymweliadau â chartrefi gofal, ac rwyf eisiau diolch i ddarparwyr gofal a chyrff cyhoeddus am eu hymdrechion i alluogi anwyliaid i ymweld â phobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal.
“Ond wrth i ni wynebu cyfnod o ansicrwydd pellach, mae nifer o’r bobl hŷn a’u teuluoedd rwyf wedi siarad â nhw yn poeni na fyddant efallai’n cael cyfle i dreulio amser gyda’u hanwyliaid eto.
“Er fy mod yn croesawu’r ffaith bod awdurdodau lleol wedi cadarnhau bod modd i ymweliadau barhau pan fydd unigolyn hŷn yn cyrraedd diwedd ei oes, mae hi’n hanfodol bod ymweliadau eraill yn gallu parhau pan fydd modd rheoli’r risgiau i’r preswylwyr ac i’r staff yn effeithiol.
“Wrth i ni feddwl sut byddwn yn delio â’r cyfnod anodd hwn sydd o’n blaenau, mae hi’n hanfodol bod hawliau pobl yn cael eu diogelu, eu bod yn ymwneud â phenderfyniadau sy’n effeithio arnynt, a bod y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud yn deg ac yn gymesur.
“Drwy benderfynu ar y ffyrdd gallwn weithio gyda’n gilydd i gefnogi dull sy’n galluogi pobl i ymweld â chartrefi gofal, mae gan Gymru gyfle i arwain y ffordd a dangos ei thosturi, ei hundod a’i hymrwymiad i sicrhau bod pobl yn gallu parhau i gynnal cysylltiad â’u hanwyliaid. Rwy’n gwybod ei bod hi’n anodd gwneud hyn, ond mae’n rhywbeth a ddylai fod yn flaenoriaeth i ni fel cymdeithas.”
DIWEDD