Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu i ddiogelu ac i gefnogi pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yng Nghymru.
Mae hyn yn dod wrth gyhoeddi adroddiad newydd – Lleisiau Cartrefi Gofal: Ciplun o fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod Covid-19 – sy’n tynnu sylw at y problemau a’r heriau sydd wedi wynebu preswylwyr a staff yn ystod y pandemig.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar brofiadau pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, eu teuluoedd a’u ffrindiau, a rheolwyr a staff cartrefi gofal – ac mae eu lleisiau wedi cael eu cynnwys drwy’r adroddiad – ac mae’n edrych at sut mae’r ymateb i Covid-19 a’r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar bobl hŷn.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Dros y misoedd diwethaf rydym wedi gweld trychineb yn ein cartrefi gofal, ac mae wedi fy mhoeni i’n fawr nad ydy lleisiau pobl sy’n byw ac yn gweithio yn ein cartrefi gofal – yr arbenigwyr oherwydd eu profiadau – wedi cael eu clywed yn ddigonol.
“Mae’r adroddiad hwn yn rhoi cipolwg ar fywyd mewn cartrefi gofal yng Nghymru yn ystod y pandemig ac mae’n tynnu sylw at yr effaith fawr a gafodd Covid-19 ar drigolion ac ar staff, a’r problemau a’r heriau sydd wedi’u hwynebu.
“Mae hefyd yn tynnu sylw at enghreifftiau o arferion da sydd wedi gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl hŷn dros y misoedd diwethaf, yn enwedig ymroddiad ac ymrwymiad staff cartrefi gofal.
“Rwyf wedi defnyddio’r profiadau sydd wedi cael eu rhannu â mi er mwyn nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen ar draws nifer o feysydd allweddol i sicrhau bod y bobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal yn cael eu cefnogi a’u diogelu.
“Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o’u hamser i ymateb a rhannu eu profiadau â mi. Rwyf yn gwybod y byddai hyn wedi bod yn arbennig o anodd i rai ond mae hi’n hanfodol bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod wrth galon y trafodaethau a’r cynlluniau ynghylch beth fydd yn digwydd nesaf yn ein cartrefi gofal wrth i ni ddilyn y llwybr anodd sydd o’n blaenau.”
Mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun gweithredu penodol ar gyfer cartrefi gofal er mwyn gallu craffu’n adeiladol ac yn gyfrifol ar y camau sydd eisoes yn cael eu cymryd neu sydd ar y gweill, a thawelu meddyliau pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal.
Ychwanegodd y Comisiynydd:
“Heb gynllun gweithredu wedi’i gyhoeddi, ni fydd nifer o bobl hŷn a’u teuluoedd a’u ffrindiau, yn ogystal â’r staff sy’n gofalu amdanynt ac yn eu cefnogi yn cael eu sicrhau y bydd y camau iawn yn cael eu cymryd ar yr adeg iawn i ddiogelu preswylwyr a staff.
“Byddai cyhoeddi cynllun gweithredu hefyd yn golygu bod modd craffu’n well ar y penderfyniadau sy’n cael eu gwneud a’r camau sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill, sy’n hanfodol wrth i ni symud ymlaen.
“Ochr yn ochr â hyn, mae hi’n hanfodol bod lleisiau pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal yn cael eu clywed a byddaf yn parhau i ymgysylltu â nhw a defnyddio eu profiadau fel sylfaen dystiolaeth bwerus i ddylanwadu ar bolisïau a sicrhau newid i bobl hŷn.”
Cliciwch ym i lawrlwytho Lleisiau Cartrefi Gofal