Angen Help?

Y Comisiynydd yn galw am gymorth ariannol i ddiogelu pobl hŷn rhag costau byw sy’n cynyddu’n gyflym

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw am gymorth ariannol ychwanegol i bobl hŷn ar incwm isel, i’w diogelu rhag costau ynni a byw cynyddol.

Mae’r Comisiynydd wedi galw ar Weinidogion i ymestyn y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf a gyhoeddwyd yn ddiweddar i gynnwys pobl hŷn sy’n derbyn Credyd Pensiwn, sy’n gallu bod yn arbennig o agored i niwed ac sydd leiaf abl i wrthsefyll pwysau ariannol cynyddol a biliau sy’n codi’n gyflym.

Yn ei llythyr, mae’r Comisiynydd yn tynnu sylw at y ffaith bod y Lwfans Tanwydd Gaeaf – er ei fod yn fath hanfodol o gymorth i bobl hŷn – bellach yn werth llawer llai mewn termau real heddiw, ac y byddai’r £100 ychwanegol a fyddai’n cael ei gynnig yn gwneud gwahaniaeth sylweddol o ran helpu pobl i gael dau ben llinyn ynghyd.

Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn drwy ymgyrch uchel ei phroffil yn y cyfryngau sydd wedi’i hanelu at bobl hŷn ac i ymestyn mentrau sydd eisoes ar waith i ganfod unigolion sydd fwyaf tebygol o fod yn gymwys a rhoi’r cymorth sydd ei angen arnynt i hawlio’r hyn y mae ganddynt hawl iddo.

Ochr yn ochr â’i llythyr, mae’r Comisiynydd hefyd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd â sefydliadau pobl hŷn allweddol – gan gynnwys Age UK ac Age Cymru, Scottish Care, Independent Age, a Chomisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon – sy’n nodi meysydd pryder eraill y mae angen i’r llywodraeth weithredu arnynt i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cymorth sydd ei angen arnynt yn ystod y gaeaf heriol hwn.

Mae hyn yn cynnwys camau i sicrhau bod modd ailgyflwyno mecanweithiau cymorth yn gyflym os oes eu hangen wrth i ni ddelio â chyfnod nesaf y pandemig er mwyn i bobl hŷn allu parhau i gael gafael ar fwyd, meddyginiaeth a chyflenwadau a gwasanaethau hanfodol eraill, gan gynnwys gwasanaethau iechyd.

Mae’r datganiad hefyd yn galw am fwy o fuddsoddi ledled y DU mewn gwasanaethau cymunedol a gwirfoddol sy’n cefnogi iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn, gan gynnwys ehangu’r gwasanaethau sydd ar gael i bobl hŷn sy’n profi unigrwydd, a fydd yn hanfodol i gefnogi iechyd a lles pobl hŷn ac i atal yr angen am ymyriadau iechyd neu ofal mwy costus.

Meddai Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Drwy gydol y pandemig, mae pobl hŷn ledled y DU wedi dangos gwytnwch mawr, ond rydyn ni hefyd wedi gweld pa mor bwysig mae cymorth a chefnogaeth wedi bod i bobl hŷn, yn enwedig y rheini a allai fod yn agored i niwed.

“Mae costau byw eisoes yn codi’n sylweddol, a disgwylir iddynt godi fwy fyth – mae amcangyfrifon yn awgrymu y gallai prisiau ynni godi hyd at 40% ym mis Ebrill, er enghraifft – rydyn ni’n debygol o weld mwy fyth o bobl hŷn yn cael eu gwthio i dlodi tanwydd, ac, o bosib, yn gorfod dewis rhwng bwyta pryd o fwyd iawn neu wresogi eu cartrefi, gan roi eu hiechyd a’u lles mewn perygl er mwyn cael deupen llinyn ynghyd.

“Dyna pam rwy’n galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol ychwanegol i bobl hŷn sy’n derbyn Credyd Pensiwn drwy ehangu pwy sy’n gymwys ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf. Byddai hyn yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl hŷn sydd fwyaf tebygol o fod yn ei chael hi’n anodd yn ariannol ac yn eu helpu i dalu’r costau byw uwch.

“Mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i gynyddu nifer y bobl sy’n hawlio Credyd Pensiwn yng Nghymru, drwy ymgyrch uchel ei phroffil sydd wedi’i hanelu at bobl hŷn. Roedd gwerth dros £200 miliwn o Gredyd Pensiwn heb ei hawlio yng Nghymru y llynedd –  arian a ddylai fod ym mhocedi pobl hŷn.

“Ar ben hynny, mae’n bwysig ein bod yn gweld gweithredu ar lefel ehangach – gan lywodraethau ledled y DU – i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt i gadw’n iach ac yn ddiogel, yn ystod yr hyn a allai fod yn rai misoedd anodd o’n blaenau, ac rwyf wedi tynnu sylw at hyn yn fy natganiad ar y cyd â phartneriaid yn y DU heddiw.

“Bydd cymorth cymunedol hefyd yn parhau i fod yn hanfodol, felly mae angen i ni weld mwy o fuddsoddi mewn gwasanaethau sy’n cefnogi iechyd corfforol a meddyliol pobl hŷn, gan gynnwys cymorth i bobl hŷn sy’n teimlo’n unig.

“Mae gweithredu a buddsoddi o’r fath yn hanfodol i ddiogelu iechyd a lles pobl hŷn wrth i ni ddelio â’r cyfnod hwn yn y pandemig ac edrych tuag at ein hadferiad.”

DIWEDD



Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges