Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Y Comisiynydd yn Cyhoeddi Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2018-19

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots, wedi cyhoeddi ei hadroddiad diweddaraf ar Effaith a Chyrhaeddiad, sy’n tynnu sylw at amrywiaeth eang gwaith a chamau gweithredu swyddfa’r Comisiynydd i ysgogi newid ar gyfer pobl hŷn ledled Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffyrdd y mae’r Comisiynydd wedi dylanwadu ar bolisïau ac arferion sy’n ymwneud â phobl hŷn a’r newid sydd wedi’i gyflawni ledled Cymru o ganlyniad i’w gwaith.  Mae’r adroddiad yn cynnwys y gwaith a wnaed yn ystod ychydig fisoedd olaf y Comisiynydd blaenorol, Sarah Rochira, yn y swydd, a gwaith y Comisiynydd presennol o fis Awst 2018 ymlaen.

Hefyd, mae’r adroddiad yn amlygu’r help a’r cymorth a ddarparwyd yn uniongyrchol i bobl hŷn gan dîm gwaith achos y Comisiynydd, yn ogystal â gwaith ymgysylltu helaeth y Comisiynydd a’i thîm â phobl hŷn ledled Cymru er mwyn clywed eu safbwyntiau a’u syniadau am yr hyn fyddai’n gwneud Cymru y lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Cefais y pleser o ddod yn Gomisiynydd ym mis Awst 2018 ac mae’n fraint cael gweithio i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru.

“Ers dechrau’r swydd, rwyf wedi teithio ar hyd a lled Cymru yn cwrdd ac yn siarad â phobl hŷn o ystod amrywiol o gefndiroedd. Mae hyn wedi helpu i arwain fy ngwaith fel Comisiynydd dros y flwyddyn ddiwethaf ac wedi fy helpu i lunio fy mlaenoriaethau ar gyfer y tair blynedd nesaf.

“Fel mae fy adroddiad yn ei ddangos, mae amrywiaeth eang o waith yn mynd rhagddo ledled Cymru i wella bywydau pobl hŷn, ac mae’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Ond mae angen gwneud llawer iawn mwy o waith i sicrhau bod pob person hŷn yn gallu cael yr ansawdd bywyd gorau, yn gallu cadw’n heini a chymryd rhan, yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a’r cymorth sydd eu hangen arnynt, ac yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig iddynt.”

Gallwch ddarllen Adroddiad Effaith a Chyrhaeddiad 2018-19 ar wefan y Comisiynydd: http://www.olderpeoplewales.com/wl/

DIWEDD



Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges