Angen Help?

Y Comisiynydd yn croesawu ymrwymiad trawsbleidiol i fynd i’r afael â cham-drin pobl hŷn yng Nghymru

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi croesawu’r gefnogaeth drawsbleidiol i’w galwadau i gymryd camau i fynd i’r afael â cham-drin pobl hŷn yn ystod tymor nesaf y Senedd.

Mae llefarwyr o Blaid Cymru, Ceidwadwyr Cymru a Llafur Cymru i gyd wedi gwneud ymrwymiadau yn datgan y byddant yn cymryd camau i sicrhau bod gwell dealltwriaeth o’r ffyrdd y gall cam-drin effeithio ar bobl hŷn, yn codi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd a gweithwyr proffesiynol ynghylch y cam-drin hwn, ac yn rhoi mesurau ar waith i ddileu camdriniaeth, naill ai fel rhan o Lywodraeth nesaf Cymru neu drwy weithio’n adeiladol yn y gwrthbleidiau.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Er bod cynnydd wedi’i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae cam-drin yn effeithio ar filoedd o bobl hŷn yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae llawer o bobl hŷn yn ei chael yn anodd cael cymorth a chefnogaeth sy’n diwallu eu hanghenion pan fyddant yn cael eu cam-drin neu mewn perygl o gael eu cam-drin.

“Mewn ymateb i bwysau a risgiau ychwanegol yn sgil y pandemig, mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud i sicrhau bod pobl hŷn yn cael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt a’r gefnogaeth gyfyngedig sydd ar gael ar hyn o bryd, ac i godi ymwybyddiaeth ynghylch cam-drin a’r rôl y gallwn ni i gyd ei chwarae o ran amddiffyn pobl hŷn.

“Mae’n hanfodol ein bod yn adeiladu ar y momentwm hwn, felly rwy’n falch iawn bod cefnogaeth drawsbleidiol i weithredu ar unwaith ac yn y tymor hwy i roi diwedd ar gam-drin pobl hŷn yng Nghymru.”

Dywedodd Dirprwy Weinidog a Phrif Chwip Llafur Cymru, Jane Hutt:

“Yn anffodus, rydyn ni’n gwybod bod trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio ar bob cymuned ar draws ein gwlad ni waeth beth fo’u hoedran, eu rhyw, eu hethnigrwydd na’u gallu. Mae’n realiti llwm a difrifol, ond er mwyn mynd i’r afael â’r broblem, rhaid inni daflu goleuni arni, codi ymwybyddiaeth ohoni, a sicrhau ein bod yn grymuso dioddefwyr i geisio cymorth a chefnogaeth.

“Fel rhan o’n hymrwymiad i symud Cymru ymlaen, rydyn ni’n gweithio gyda gwasanaethau VAWDASV, gwasanaethau arbenigol i bobl hŷn ac awdurdodau perthnasol i sicrhau bod yr ymateb i ddioddefwyr hŷn yn briodol ac yn effeithiol.

“Rydyn ni’n gwybod bod ymyriadau trydydd parti yn gallu bod yn hollbwysig i bobl sy’n cael eu cam-drin, yn enwedig pobl hŷn sy’n debygol o fod wedi bod yn gwarchod ers dechrau pandemig COVID-19.

“Fe wnaeth Llywodraeth Lafur Cymru greu ‘Byw Heb Ofn’ – llinell gymorth 24 awr am ddim sy’n rhoi cymorth a chefnogaeth i ddioddefwyr a goroeswyr trais rhywiol a cham-drin domestig. Mae ein neges barhaus i ddioddefwyr a goroeswyr ledled Cymru yn glir; rydyn ni yma i’ch cefnogi chi, lle bynnag a sut bynnag y byddwch chi ei hangen.”

Dywedodd Janet Finch-Saunders, Hyrwyddwr Pobl Hŷn y Ceidwadwyr Cymreig:

“Wrth i ni fynd yn hŷn, rydyn ni’n dod yn fwy agored i niwed, gan orfod dibynnu mwy ar bobl eraill a rhoi mwy o ffydd ynddyn nhw. Mae angen atal y bobl hynny sy’n cam-drin yr ymddiriedaeth honno ac sy’n manteisio ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymuned, er mwyn i bawb allu byw eu bywydau heb ofn.

“Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi mesurau yn ystod tymor nesaf y Senedd sy’n dileu’r cam-drin hwnnw, gan roi’r sicrwydd sydd ei angen ar bobl hŷn.”

Dywedodd Leanne Wood, Gweinidog yr Wrthblaid dros Gyfiawnder a Chydraddoldeb, Plaid Cymru:

“Mae cam-drin pobl hŷn yn anfaddeuol. Rhaid edrych amdano, ei fonitro a gweithredu arno pan gaiff ei ddarganfod. Mae hefyd yn hanfodol bod ymdrechion yn cael eu gwneud i godi ymwybyddiaeth ohono. Gyda mwy o ymwybyddiaeth a gweithredu, mae gennym well siawns o ddileu hyn o’n cymunedau. Rwy’n hapus i ymuno â swyddfa’r Comisiynydd Pobl Hŷn i wneud yr hyn a allaf, os caf fy ailethol, i helpu i fynd i’r afael â’r broblem hon yn y Senedd nesaf.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges