Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad bod y Prif Weinidog wedi gofyn i Gomisiwn y Gyfraith archwilio a ellid cryfhau deddfwriaeth fel y gellid cydnabod troseddau yn erbyn pobl hŷn fel troseddau casineb, mewn achosion lle mae oed y dioddefwr wedi bod yn ffactor.
“Mae’r newid arfaethedig yn rhywbeth y mae fy swyddfa wedi galw’n gyson amdano, gan nad yw’n dderbyniol nad yw’r ddeddfwriaeth gyfredol yn cydnabod y mathau hyn o droseddau fel troseddau casineb ac nad yw’n cynnig yr un amddiffyniad i bobl hŷn â’r hyn y mae’n ei gynnig i grwpiau eraill sydd â nodweddion gwarchodedig.
“Mae troseddau a gyflawnwyd yn erbyn pobl hŷn oherwydd eu hoed yn cael effaith sylweddol a pharhaol ar eu hiechyd a’u llesiant, ac mae llawer o ddioddefwyr wedi datblygu iselder dwys ac unigrwydd o ganlyniad i’r troseddau a gyflawnwyd yn eu herbyn.
“Byddai mynd i’r afael â’r bylchau presennol yn y gyfraith yn y maes hwn yn gam sylweddol ymlaen, gan helpu i sicrhau bod y system cyfiawnder troseddol yn cydnabod y mathau hyn o droseddau a bod y cosbau a’r dedfrydau i droseddwyr sy’n eu cyflawni yn adlewyrchu’n llawn beth yw natur y drosedd a gyflawnwyd.”