Yn siarad ar ôl ei haraith yng Nghynhadledd Gofal a Thrwsio, dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad yn y gynhadledd heddiw y bydd Llywodraeth Cymru’n ymgynghori ynghylch cyflwyno safonau gwasanaeth ar gyfer addasiadau tai i helpu pobl hŷn a phobl anabl i fyw’n fwy annibynnol.
“Mae addasiadau’n chwarae rhan bwysig yn cynnal iechyd ac annibyniaeth pobl hŷn, ond mae pobl hŷn yn aml yn teimlo bod y system addasiadau yn gymhleth a’i bod yn anodd gweithio’ch ffordd drwyddi. Rhaid i’r safonau gwasanaeth wella cysondeb o ran y ffordd y caiff gwasanaethau addasu eu darparu, cael gwared â’r cymhlethdodau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu pan fyddant yn cael y gwasanaethau hyn a gwella’r system sydd ar waith i fesur perfformiad fel ei bod yn adlewyrchu effaith ac effeithiolrwydd addasiadau.
“Heb addasiadau priodol i’w cartrefi, mae pobl hŷn yn gallu bod yn fwy tueddol i ddisgyn, ac mae mwy o risg iddynt fethu dod adref o’r ysbyty neu iddynt orfod mynd i gartref gofal yn ddianghenraid. Nid yn unig y mae hyn yn effeithio ar unigolion ond mae’n arwain at ymyriadau iechyd a gofal cymdeithasol mwy costus yn y dyfodol. Mae ymchwil wedi dangos bod gohirio mynd i gartref gofal am flwyddyn drwy addasu cartrefi yn arbed dros £30,000 y person, ac am bob £1 sy’n cael ei wario ar addasiadau gan Gofal a Thrwsio ceir £7.50 o arbedion i’r trethdalwr.
“Mae galluogi pobl hŷn i fanteisio ar addasiadau priodol yn eu cartrefi yn rhan allweddol o wneud Cymru y lle gorau yn y byd i dyfu’n hŷn ynddo, ac rwy’n edrych ymlaen at rannu fy marn ar y safonau gwasanaeth gyda’r Gweinidog.”