Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n falch iawn o weld bod pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal bellach wedi dechrau cael brechiadau i’w diogelu rhag Covid-19.
“Mae’r pandemig wedi bod yn gyfnod arbennig o anodd i bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a’u hanwyliaid, a byddant yn croesawu’r cam pwysig hwn ymlaen yn fawr iawn.
“Rwy’n gwybod y bydd staff sy’n gweithio ar draws ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod y cynlluniau peilot hyn yn llwyddiannus er mwyn gallu cyflwyno’r brechlyn i ragor o gartrefi gofal ledled Cymru, ac rwy’n gobeithio y bydd gwersi ac arferion da yn cael eu rhannu ar draws y DU er mwyn cefnogi’r broses o gyflwyno’r brechlyn yn ehangach.
“Gan ei bod yn debygol y bydd cryn amser cyn y bydd yr holl bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal yn cael eu diogelu gan y brechlyn, mae’n hanfodol bod preswylwyr yn gallu cadw mewn cysylltiad agos â’u hanwyliaid, a bod modd trefnu ymweliadau diogel, lle bynnag y bo modd, a fydd yn bwysig iawn dros gyfnod y Nadolig.”