Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Bydd cadarnhad swyddogol gan y Prif Weinidog y bydd ymweliadau dan do â chartrefi gofal yn cael mynd rhagddynt o yfory ymlaen yn rhyddhad enfawr i lawer o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a’u ffrindiau a’u teuluoedd, sy’n gallu edrych ymlaen yn awr at gael treulio amser gyda’i gilydd ar ôl bod ar wahân am gyhyd.
“Rydyn ni’n gwybod bod y 12 mis diwethaf wedi bod yn arbennig o anodd i lawer o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, a bod iechyd meddwl a chorfforol llawer o bobl wedi dirywio’n sylweddol yn ystod y cyfnod hwn. Gall hyn fod yn anodd i deulu ac i ffrindiau, ac efallai eu bod yn poeni am lesiant eu hanwyliaid.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan i sicrhau bod modd cynnal ymweliadau diogel dan do eto, gan fy mod yn gwybod bod cartrefi gofal, Llywodraeth Cymru ac amrywiaeth o sefydliadau a chyrff cyhoeddus eraill wedi gwneud llawer o waith i gyrraedd y sefyllfa hon. Bydd angen parhau i weithio mewn partneriaeth fel hyn i sicrhau bod modd rheoli ymweliadau’n ddiogel, a chaniatáu i ymwelwyr eraill ddechrau ymweld hefyd cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.
“Byddaf hefyd yn dal ati i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn a’u hanwyliaid yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt.”