Angen Help?

Y Comisiynydd yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Gost Gofalu

i mewn Newyddion

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

“Rydw i’n croesawu cyhoeddi canfyddiadau’r Ymchwiliad i gost gofalu am boblogaeth sy’n heneiddio, a gynhaliwyd yn ddiweddar gan Bwyllgor Cyllid Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

“Mae canfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor yn adlewyrchu’n gryf y dystiolaeth a ddarparwyd i’r Ymchwiliad gan fy swyddfa i ac maen nhw’n rhoi sylw i faterion pwysig amrywiol, gan gynnwys pwysigrwydd hanfodol gwasanaethau ataliol a rôl gwasanaethau anstatudol mewn cefnogi’r rhain, cynllunio a chynaliadwyedd yn y tymor hir, y gweithlu gofal cymdeithasol, a’r gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr.

“Rydw i hefyd yn croesawu’r ffaith bod yr adroddiad yn cydnabod y pwysau a’r heriau ehangach mae ein system gofal cymdeithasol ni’n eu hwynebu.

“Mae’n hanfodol bod gan y system gofal cymdeithasol yr adnoddau y mae arni eu hangen er mwyn darparu’r safonau uchaf o ofal a chefnogaeth i’r bobl sydd ei angen. Rydw i’n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn argymhellion y Pwyllgor ac yn gweithredu fel sydd angen er mwyn sicrhau bod gan Gymru system gofal cymdeithasol gynaliadwy sy’n cael ei chyllido’n dda ac a fydd yn diwallu anghenion pobl hŷn nawr ac yn y dyfodol.”

Cliciwch yma i lawrlwytho Cost gofalu am boblogaeth sy’n heneiddio


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges