Gan ymateb i adroddiad Dadansoddi Ariannol Cymru ‘Devolving Welfare: How well would Wales fare?’, dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu’r adroddiad a gyhoeddwyd heddiw, sy’n cynnwys mwy o dystiolaeth i gefnogi’r achos dros ddatganoli’r gwaith o reoli nifer o hawliadau ariannol i Gymru.
“Pe bai Llywodraeth Cymru’n rheoli’r hawliadau hyn, byddai’n gallu mabwysiadu ymagwedd wahanol at sut caiff hawliadau eu defnyddio i gefnogi pobl hŷn i gael sicrwydd ariannol.
“Rydyn ni eisoes wedi gweld Llywodraeth yr Alban yn cynyddu faint o gymorth a ddarperir drwy’r Lwfans Gofalwyr, ac fe ellid defnyddio’r cyllid ychwanegol posibl a nodir yn yr adroddiad hwn i wella hyn yn ogystal â hawliadau eraill i bobl hŷn.
“Yn y bôn, byddai datganoli’r pwerau hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i ailddiffinio argraff pobl o fudd-daliadau lles er mwyn ystyried yr hawliau a’r hawliadau a ragwelwyd yn wreiddiol.
“Fodd bynnag, gallai Llywodraeth Cymru hefyd wneud mwy nawr i gynyddu nifer y bobl sy’n hawlio’r rhain a hawliadau eraill, fel Credyd Pensiwn. Nifer fach iawn sy’n eu hawlio ar hyn bryd, sy’n golygu bod llawer o bobl hŷn yn colli allan ar filoedd o bunnoedd y flwyddyn – arian y mae ganddynt yr hawl i’w gael.”