Angen Help?
An older man with his head in his hands

Y Comisiynydd yn canfod cwymp sylweddol mewn lefelau optimistiaeth ymhlith pobl hŷn yng Nghymru ers 2021

i mewn Newyddion

Y Comisiynydd yn canfod cwymp sylweddol mewn lefelau optimistiaeth ymhlith pobl hŷn yng Nghymru ers 2021

Mae ymchwil a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi datgelu bod lefelau optimistiaeth ymhlith pobl hŷn wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y ddwy flynedd diwethaf.

Dim ond 40% o’r bobl hŷn a holwyd yn ddiweddar a ddywedodd eu bod yn teimlo’n optimistaidd wrth feddwl am y dyfodol, ffigur a oedd yn llawer uwch pan ofynnodd y Comisiynydd yr un cwestiwn ym mis Mawrth 2021, pan ddywedodd 80% o bobl hŷn eu bod yn teimlo’n optimistaidd, a hynny er eu bod yn byw ag effeithiau’r pandemig Covid-19 ar y pryd.

Dywed y Comisiynydd fod hyn yn dangos inni sut mae pobl hŷn yn teimlo am eu bywydau, a sut mae pynciau fel yr argyfwng costau byw a’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn effeithio ar bobl hŷn.

Dywed y gallai hyn fod yn adlewyrchiad o’r ffaith nad yw bywyd byth wedi dychwelyd i ‘normal’ i lawer o bobl hŷn ers y pandemig, gyda llawer o bobl yn dal yn bryderus ynglŷn â mynd allan a chymysgu yn eu cymunedau unwaith eto, sy’n golygu eu bod yn colli gwneud y pethau sy’n bwysig iddynt.

Mae’r Comisiynydd yn poeni bod y gostyngiad sylweddol hwn yn awgrymu bod pobl hŷn yn awr yn pryderu mwy am y dyfodol nag oeddent yn 2021, a bod y straen a’r pryder hwn yn effeithio ar iechyd, llesiant ac ansawdd bywyd pobl hŷn.

Dywed ei bod yn hanfodol bod llunwyr polisi a phenderfynwyr ym mhob cwr o Gymru’n cydnabod yr hyn sy’n cael ei awgrymu gan y ffigurau hyn am brofiadau pobl hŷn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a’u bod yn sicrhau bod y polisïau a’r gwasanaethau cywir ar gael i helpu pobl hŷn.

Meddai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

“Cefais fraw o weld bod lefelau optimistiaeth ymhlith pobl hŷn yng Nghymru wedi cwympo i’r fath raddau mewn amser mor fyr, gan ddangos cymaint fu effaith yr heriau yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf ar sut mae pobl hŷn yn meddwl am eu bywydau a’r dyfodol.

“Ochr yn ochr â materion cyfarwydd fel y straen a’r pryder a achosir gan yr argyfwng costau byw a’r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus ymhlith pobl hŷn, mae llawer o bobl hŷn wedi dweud wrthyf hefyd eu bod yn dal i boeni am ail-ymgysylltu â’u cymunedau, sy’n golygu eu bod yn aml yn cael eu gadael i deimlo’n unig ac ynysig.

“O gofio’r effaith y gwyddom y gall y ffactorau hyn eu cael ar iechyd a llesiant pobl, mae’n hanfodol bod llawer mwy yn cael ei wneud i sicrhau bod pobl hŷn yn cael yr help sydd ei angen arnynt pan fyddant yn wynebu anawsterau a’u bod yn gallu gwneud y pethau sy’n bwysig iddynt.

“Byddaf yn rhannu fy nghanfyddiadau a fy mhryderon drwy’r gwaith rwyf yn ei wneud â llunwyr polisi a phenderfynwyr yn y llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru i’w helpu i ddeall yn well yr anawsterau y mae pobl hŷn yn eu hwynebu, yr effaith mae’r rhain yn ei gael a sut mae pobl hŷn yn teimlo, a’r mathau o bolisïau a gwasanaethau sydd eu hangen i helpu pobl hŷn yn fwy effeithiol.”

DIWEDD

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges