Y Comisiynydd yn ategu’r galwadau am weithredu i fynd i’r afael â phwysau gofal cymdeithasol yng Nghymru
Wrth ymateb i gyhoeddi Adroddiad Blynyddol 2022-23 Arolygiaeth Gofal Cymru, dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n braf gweld o Adroddiad Blynyddol AGC fod arolygwyr yn gweld yn gyson bod y rhan fwyaf o wasanaethau’n darparu gofal da a diogel i’r rhai sy’n eu defnyddio, sy’n cynnwys llawer o bobl hŷn.
“Fodd bynnag, mae’r adroddiad hefyd yn nodi’n glir bod y system ofal yn wynebu pwysau sylweddol a pharhaus sy’n effeithio ar bobl sydd angen gofal a chymorth, yn enwedig y nifer cynyddol o unigolion ag anghenion cymhleth.
“Mae’n destun pryder mawr fod y pwysau hyn i bob golwg yn tanseilio hawliau pobl i gael asesiad o’u hanghenion, ac i gael dewis a rheolaeth dros y gofal maen nhw’n ei gael, ac mae hefyd yn rhoi mwy o bwysau ar ofalwyr di-dâl, gyda llawer ohonynt eisoes yn wynebu heriau enfawr.
“Rwy’n cefnogi’r galwadau am weithredu sydd wedi’u nodi yn yr adroddiad ac sy’n adlewyrchu fy ngalwadau innau i fynd i’r afael â phroblemau yn ymwneud â recriwtio a chadw staff drwy wella tâl ac amodau staff gofal, a lleihau’r pwysau ar wasanaethau drwy ddefnyddio dulliau ataliol.
“Mae’n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ystyried y pryderon a nodir yn adroddiad y Prif Arolygydd ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wneud yn siŵr fod pobl yn gallu cael gafael ar y gofal a’r cymorth sydd eu hangen arnynt ac, yn bwysicach fyth, fod hawliau pobl yn cael eu diogelu a’u cynnal.”