Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE, wedi cyhoeddi canllaw newydd ar seibiant, i rymuso pobl hŷn sydd wedi’u heffeithio gan ddementia ac i roi iddynt wybodaeth amrywiol am gael seibiant, opsiynau seibiant newydd ac amgen, a’u hawliau o dan ddeddfwriaeth Cymru.
Cafodd yr angen am y canllaw ei nodi yn ‘Ailfeddwl am Seibiant ar gyfer Pobl a Effeithir gan Ddementia’, adroddiad a gyhoeddwyd gan swyddfa’r Comisiynydd yn gynharach eleni. Canfu’r adroddiad nad oedd gofalwyr a phobl sy’n byw â dementia yn ymwybodol yn aml o’r gwahanol opsiynau seibiant sydd ar gael iddynt a sut i wneud defnydd o’r rhain.
Lluniwyd cynnwys y canllaw gyda chefnogaeth gan ofalwyr, pobl sy’n byw â dementia a rhanddeiliaid ac mae’n cynnwys gwybodaeth am y gwahanol fathau o seibiant sydd ar gael a sut gellir cynllunio ar ei gyfer a’i drefnu, talu am seibiant a defnyddio taliadau uniongyrchol, cyfathrebu anghenion a rhoi adborth i ddarparwyr seibiant. Hefyd mae’r canllaw’n rhoi manylion am sefydliadau a fydd yn gallu darparu help a chefnogaeth efallai i ofalwyr a phobl sy’n byw â dementia pan maent eisiau trefnu seibiant.
Wrth drafod y canllaw, dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:
“Mae seibiant yn hanfodol fel bod gofalwyr a phobl sy’n byw â dementia’n cael egwyl y maen nhw ei wir angen, sy’n cael effaith bositif ar eu lles.
“Er hynny, yn aml iawn, nid yw pobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia’n ymwybodol o’r gwahanol fathau o seibiant sydd ar gael iddyn nhw o bosib, fel gwyliau byr i’r teulu, gweithgareddau dydd, neu gefnogaeth un i un.
“Dyma pam rydw i wedi cyhoeddi’r canllaw yma ar seibiant, i wneud yn siŵr bod gofalwyr a phobl sy’n byw â dementia’n deall y gwahanol opsiynau seibiant sydd ar gael iddyn nhw o bosib, a’r gwahanol ffyrdd o wneud defnydd o’r rhain, a’r hawliau sydd ganddyn nhw o dan ddeddfwriaeth Cymru.
“Bydd gofalwyr a phobl sy’n byw â dementia ledled Cymru’n gallu defnyddio’r wybodaeth yn y canllaw i’w helpu i ddod o hyd i opsiynau seibiant sy’n addas i’w hanghenion, cynnig mwy o hyblygrwydd a darparu profiad positif iddyn nhw a’u hanwyliaid.”
Bydd y canllaw ar seibiant yn cael ei ddosbarthu ledled Cymru gan y Comisiynydd a’i thîm mewn digwyddiadau ymgysylltu, a chan randdeiliaid sy’n gweithio gyda phobl sydd wedi’u heffeithio gan ddementia.
Cliciwch yma i lawrlwytho Canllawiau ar gymorth seibiant i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt