Angen Help?

Y Comisiynydd Pobl Hŷn yn cyhoeddi canllaw newydd ar gartrefi gofal ar gyfer pobl hŷn a’u teuluoedd

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi cyhoeddi canllaw newydd i bobl hŷn a’u teuluoedd sy’n ateb cwestiynau cyffredin am symud i fyw mewn cartrefi gofal.

Bydd y canllaw yn helpu i sicrhau bod pobl hŷn yng Nghymru yn deall eu hawliau yn well pan fyddan nhw’n byw mewn cartref gofal, ac mae’n cynnwys gwybodaeth ar ystod eang o bynciau, gan gynnwys dod o hyd i gartref gofal addas, talu am ofal, cael cyfle i ddweud eu dweud mewn penderfyniadau, gweithgareddau a chymdeithasu, a beth y gall rhywun ei wneud os nad yw’n hapus â’r gofal a’r cymorth maen nhw’n eu cael.

Er mwyn datblygu’r canllaw, roedd tîm y Comisiynydd wedi cyfarfod a siarad â phobl hŷn mewn cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru, i glywed yn uniongyrchol beth yw’r cwestiynau sydd ganddynt am symud i fyw mewn cartref gofal. Mae’r Comisiynydd hefyd wedi bod yn gweithio gyda darparwyr gofal a rhanddeiliaid eraill i sicrhau y byddai’r wybodaeth yn y canllaw yn ateb y cwestiynau y gofynnir iddynt yn aml gan breswylwyr.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwyf wedi parhau i fonitro a chraffu ar fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i wneud yn siŵr eu bod yn cyflawni ar yr ymrwymiadau a wnaed yn dilyn yr adolygiad a wnaeth fy swyddfa i ansawdd bywyd a gofal pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, yn ogystal â pharhau i ymgysylltu â darparwyr gofal ledled Cymru.

“Ond ochr yn ochr â’r gwaith pwysig hwn, roeddwn hefyd am rymuso pobl hŷn a’u teuluoedd drwy ddarparu’r wybodaeth maen nhw am ei chael, ac angen ei chael, wrth symud i fyw mewn cartref gofal. 

“Dyna pam rwyf wedi cyhoeddi’r canllaw newydd ar gartrefi gofal, i gefnogi pobl hŷn a’u teuluoedd ar adeg sy’n gallu bod yn anodd.”

Dosbarthwyd mwy na 6,000 o gopïau o’r canllaw i awdurdodau lleol, byrddau iechyd a sefydliadau’r trydydd sector – sy’n cynnwys Age Cymru, Cymdeithas Alzheimer’s ac RNIB Cymru – fel bod pobl hŷn a’u teuluoedd yn gallu cael gafael arnynt yn rhwydd. Gellir hefyd lawrlwytho’r daflen o wefan y Comisiynydd (www.olderpeoplewales.com) ac mae copïau papur ar gael drwy gysylltu â swyddfa’r Comisiynydd ar 03442 640670.

Cliciwch yma i lawrlwytho Cartrefi Gofal yng Nghymru: Atebion i’ch Cwestiynau


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges