Mae Comisiynydd Pobl Hŷn newydd Cymru, Heléna Herklots CBE, wedi disgrifio ei huchelgais i sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i heneiddio. Mae’n gwahodd amrywiaeth eang o unigolion, sefydliadau a chyrff – gan gynnwys pobl hŷn, llywodraeth leol a llywodraeth ganol, gwasanaethau cyhoeddus, mudiadau yn y trydydd sector, y sector preifat ac ymchwilwyr – i weithio gyda hi i wella bywydau pobl hŷn.
A hithau’n cychwyn yn ei swydd heddiw (20 Awst), dywedodd bod Cymru eisoes wedi darparu deddfwriaeth a pholisïau arloesol i wella bywydau pobl hŷn, ac y gellir adeiladu ar amrywiaeth eang o arferion da a gwaith arloesol i sicrhau bod Cymru yn parhau i arwain y ffordd ar ran pobl hŷn.
Bu Heléna yn siarad yng Nghanolfan Widdershins ym Mhont-y-pŵl, lle treuliodd ei diwrnod cyntaf yn y swydd yn cwrdd ac yn siarad â phobl hŷn. Meddai:
“Mae Cymru wedi dangos ymrwymiad clir i wella bywydau pobl hŷn drwy ddatblygu’r strategaeth ar gyfer pobl hŷn, a oedd yn gam mawr ymlaen, a sefydlu rôl Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, y swydd gyntaf o’i bath yn y byd.
“Yn fwy diweddar rydym hefyd wedi gweld deddfwriaeth bwysig, yn ogystal â ffocws cryf ar les a hawliau, sy’n ceisio gwneud gwahaniaeth ystyrlon i bobl hŷn ledled Cymru.
“Fel Comisiynydd Pobl Hŷn, rwy’n awyddus i adeiladu ar y sylfeini cadarn hyn, ac ar y gwaith rhagorol a gafodd ei wneud gan fy rhagflaenydd Sarah Rochira. Gobeithio’n fawr y bydd Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol, gwasanaethau cyhoeddus a’r trydydd sector, yn ogystal â phobl hŷn, yn cydweithio gyda mi i wella bywydau pobl hŷn a sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i heneiddio.”
Mae ymweliad y Comisiynydd â Phont-y-pŵl yn nodi dechrau rhaglen helaeth o ymgysylltu er mwyn cael barn a phrofiadau pobl hŷn a rhanddeiliaid ledled Cymru, cael pobl i siarad am y newidiadau y maent am eu gweld a chlywed am eu syniadau am sut y gellid cyflwyno’r gwelliannau, a fydd yn siapio ei rhaglen waith a’r blaenoriaethau yn ei chynllun strategol yn y tymor hirach.
Ychwanegodd Heléna: “Rwy’n edrych ymlaen at deithio ar draws Cymru i gwrdd â phobl hŷn o bob cefndir a hefyd â’r unigolion a’r sefydliadau sy’n gweithio gyda nhw ac ar eu rhan, i glywed yn uniongyrchol am y pethau y maen nhw am i mi ganolbwyntio arnyn nhw fel Comisiynydd a thrafod eu syniadau am sut y gallwn weithio gyda’n gilydd i gyflwyno newid.
“Mae pobl hŷn yn gwybod yn well na neb pa gefnogaeth a gwasanaethau y maent eu hangen a lle mae angen gwneud gwelliannau. Felly, rwy’n edrych ymlaen at eu cynnwys yn fy ngwaith o’r cychwyn. Fel hyn gallwn fynd ati gyda’n gilydd i gyflwyno’r newid y maent am ei weld, y newid a fydd yn cael yr effaith fwyaf a mwyaf ystyrlon ar eu bywydau.”