Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Gall rhwystrau gael effaith ddinistriol ar iechyd a lles pobl hŷn, nid yn unig oherwydd anafiadau corfforol, sy’n gallu bod yn pan fydd cwymp yn digwydd, ond hefyd o ran yr effaith ar iechyd meddwl pobl yn dilyn colli eu hyder a mynd i’w cragen.
“Mae cwympiadau – a’u heffaith – yn aml yn cael eu cyflwyno fel rhan anochel o fynd yn hŷn, ond nid yw hyn yn wir a gall pob un ohonom gymryd camau i leihau ein risg o gwympo. Mae hyn yn cynnwys cadw’n heini, cynnal ein cryfder a’n cydbwysedd, a gwneud yn siŵr bod ein cartrefi’n ddiogel ac yn rhydd o beryglon a allai arwain at gwymp.
“Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gallwch ei wneud i atal eich hun rhag cwympo o’r canllaw defnyddiol hwn gan Age Cymru – Cadw Cydbwysedd (Staying Steady).
“Mae hefyd yn bwysig iawn ein bod ni’n cael sgyrsiau gyda theulu a ffrindiau am y camau y gallwn ni eu cymryd i gadw ein hunain yn ddiogel ac atal cwympiadau gan y gallan nhw helpu i adnabod risgiau posibl, yn ogystal â chynnig cyngor a chymorth.”