Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Trefniadau Nadolig Haen 4 yng Nghymru: Ymateb gan Gomisiynydd

i mewn Newyddion

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Rwy’n gwybod y bydd y newidiadau i drefniadau’r Nadolig wedi bod yn sioc ac yn siom i lawer o bobl hŷn a’u hanwyliaid, a fydd wedi bod yn edrych ymlaen at dreulio amser gyda’i gilydd ar ddiwedd blwyddyn heriol iawn.

“Fodd bynnag, rwy’n gwybod nad ar chwarae bach y bydd y penderfyniad hynod anodd hwn wedi cael ei wneud, ac mae’n hanfodol ein bod yn dilyn y rheoliadau a’r canllawiau newydd i atal Covid-19 rhag lledaenu ac i gadw ein gilydd yn ddiogel y Nadolig hwn.

“Rwy’n gwybod y gallai’r Nadolig hwn fod yn arbennig o anodd i lawer o bobl hŷn, ond mae’n bwysig cofio y bydd cymorth a chefnogaeth ar gael o hyd.

“Bydd llinell gyngor Age UK (0800 678 1602) a’r Silverline (0800 4 70 80 90) ar gael bob dydd dros gyfnod y Nadolig er mwyn darparu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth, er enghraifft.

“Byddwn hefyd yn annog unrhyw bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu unrhyw un sydd â phryderon am rywun arall, i gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn (0808 801 0800), a fydd ar gael 24 awr y dydd dros y Nadolig.

“Bydd awdurdodau lleol ledled Cymru hefyd yn darparu ystod eang o wasanaethau a chefnogaeth i bobl hŷn drwy gydol cyfnod y Nadolig.

“Eleni, mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni i gyd yn meddwl am y pethau y gallem ni eu gwneud i gefnogi person hŷn rydyn ni’n ei adnabod, boed yn berthynas, yn ffrind neu’n gymydog. Gallai dechrau sgwrs dros ffens yr ardd, codi’r ffôn neu gynnig gwneud rhywfaint o siopa munud olaf wneud byd o wahaniaeth.

“Fel Comisiynydd, byddaf hefyd yn parhau i chwarae fy rhan drwy sefyll i fyny a siarad dros bobl hŷn i sicrhau bod eu hawliau’n cael eu cynnal a’u bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt wrth i ni ddelio â cham nesaf y pandemig. 

“Gofalwch am eich gilydd a chadwch yn ddiogel y Nadolig hwn.”


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges