Sylwadau dychrynllyd yn dangos pam na ddylid byth eto ddiystyru rhagfarn ar sail oedran fel rhywbeth diniwed
Cafodd athro ym Mhrifysgol Yale ei feirniadu’n ddiweddar – a hynny’n gwbl haeddiannol – am yr awgrym ofnadwy mai hunanladdiad torfol neu ewthanasia gorfodol i bobl hŷn oedd yr unig ateb i ‘faich’ poblogaeth sy’n heneiddio yn Japan.
Mae’r ffaith ei fod yn cael ei gweld yn dderbyniol i wneud sylwadau o’r fath, a gafodd eu hamddiffyn gan rai sylwedyddion, yn dangos cyn lleied o werth a roddir ar ein bywydau hŷn.
Mae hyn yn dangos yn glir i ba raddau y mae rhagfarn ar sail oedran yn cael ei weld fel rhywbeth derbyniol a’i fod yn cael ei ddiystyru fel rhywbeth diniwed, er bod corff cynyddol o dystiolaeth ac ymchwil sy’n dangos y niwed y mae rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran yn ei achosi i unigolion ac i gymdeithas.
Mae hyn yn cael sylw mewn adroddiad diweddar – ‘Ageism: What’s the Harm?’ – a gyhoeddwyd gan y Centre for Ageing Better, sy’n disgrifio tri phrif fath o ragfarn ar sail oedran ac mae’n ystyried sut mae’r rhain yn amlygu eu hunain.
Yn ôl yr adroddiad, mae’r cyntaf – rhagfarn sefydliadol – yn arwain at ymwreiddio rhagfarn ar sail oedran mewn cyfreithiau, rheolau, normau cymdeithasol, polisïau ac arferion gweithio. Mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei weld mewn gwasanaethau iechyd, gyda phobl hŷn yn llai tebygol o gael cynnig y dewis o driniaethau penodol beth bynnag fo’r canlyniad posibl, er enghraifft, ac mewn arferion cyflogaeth, sy’n golygu bod pobl hŷn yn llai tebygol o gael eu cyflogi ac o gael cynnig cyfleoedd hyfforddi.
Mae rhagfarn sefydliadol yn cynnwys ‘rhagfarn ar sail oedran drwy hepgoriad’, lle nad yw anghenion pobl hŷn yn cael ystyriaeth briodol neu nad ydynt yn ddealladwy i lunwyr polisïau, sy’n arwain at fylchau mewn gwasanaethau, cymorth neu amwynderau, ac mae hyn yn rhywbeth y byddaf fel Comisiynydd yn datgan pryderon am ei gylch ac yn ei herio.
Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at ragfarn ryngbersonol ar sail oedran, sy’n digwydd yn y rhyngweithio rhwng unigolion. Gall hyn gynnwys agwedd nawddoglyd at bobl hŷn neu eu trin fel plant, neu dybiaethau neu sylwadau difrïol am rywun yn seiliedig ar eu hoedran.
Y trydydd math o ragfarn ar sail oedran a amlygir yn yr adroddiad yw rhagfarn ar sail oedran hunangyfeiriedig, sy’n digwydd pan fydd unigolyn yn mewnoli rhagfarn ar sail oedran ac yn addasu eu ffordd o feddwl neu eu hymddygiad o ganlyniad i amlygiad cyson i agweddau a negeseuon rhagfarnllyd.
Er enghraifft, mae tystiolaeth yn dangos bod pobl sy’n credu bod dirywiad corfforol a meddyliol wrth heneiddio’n anorfod yn fwy tebygol o ymwneud ag ymddygiadau afiach – fel yfed alcohol, ysmygu a bod yn segur – a hefyd yn llai tebygol o fod mewn cysylltiad â gwasanaethau gofal iechyd ac ataliol. Gall rhagfarn ar sail oedran hunangyfeiriedig wneud i bobl gredu eu bod yn ‘rhy hen’ i wneud cynnydd mewn gwaith neu i ddysgu sgiliau newydd, a all wedyn gyfyngu ar eu huchelgeisiau a’r cyfleoedd y gallant fanteisio arnynt.
Efallai mai’r canfyddiad sy’n achosi’r pryder mwyaf yn yr adroddiad yw ei bod yn ymddangos bod y DU yn wlad lle mae rhagfarn ar sail oedran yn gyffredin dros ben: canfu dadansoddiad o’r iaith a ddefnyddir wrth sôn am bobl hŷn mewn papurau newydd a chylchgronau ar y we o 7,000 o wefannau, mewn 20 o wledydd mai’r DU oedd y wlad fwyaf rhagfarnllyd ar sail oedran ohonynt i gyd. Mae hyn yn adlewyrchu canfyddiadau fy ymchwil i’r portread o bobl hŷn yn y cyfryngau, a ddangosodd bod dau draean o storïau yn y newyddion am bobl hŷn yn eu portreadu mewn ffordd negyddol.
Mae hyn yn dangos pam mae angen cymryd mwy o gamau i roi diwedd ar ragfarnu a gwahaniaethu ar sail oedran – prif flaenoriaeth fy ngwaith fel Comisiynydd – o gofio’r niwed sylweddol y gall hyn ei achosi.
I unigolion, mae’r niwed hwn yn cynnwys effeithiau andwyol ar iechyd corfforol a meddyliol, fel y nodwyd uchod, yn ogystal â rhwystrau ehangach sylweddol sy’n gysylltiedig â phethau fel cyflogaeth a llesiant ariannol.
Ac mae rhagfarnu a gwahaniaethu ar sail oedran hefyd yn niweidio cymdeithas yn fwy cyffredinol, gan effeithio ar gydlyniant cymdeithasol a chreu rhaniadau rhwng cenedlaethau, gan atgyfnerthu anghydraddoldeb, a chyfyngu ar ein cynhyrchiant. Pan fydd pobl hŷn yn cael eu hallgau, rydym yn colli eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiadau, sy’n ein gadael yn dlotach, yn economaidd ac yn ddiwylliannol.
Rhaid sicrhau bod mynd i’r afael â’r materion hyn yn flaenoriaeth ac er bod cydnabyddiaeth gynyddol i raddfa ac effaith rhagfarn a gwahaniaethu ar sail oedran, mae angen mwy o ymwybyddiaeth o’r mater yn ein gwasanaethau cyhoeddus a chymdeithas yn gyffredinol. Ni ddylid byth ddiystyru rhagfarn ar sail oedran fel rhywbeth diniwed, a dylid ei drin yr un mor ddifrifol â phob math arall o wahaniaethu.
Hefyd, mae angen gwella llawer ar y dystiolaeth a’r data sy’n ymdrin â phobl hŷn a’u profiadau. Fel rwyf wedi’i ddatgan eisoes, mi all bylchau mewn data a gesglir sy’n ymwneud â phobl hŷn a’u profiadau arwain at dybiaethau nad yw pobl hŷn yn cael eu heffeithio gan fater, er bod y gwrthwyneb yn wir.
Mi all hyn achosi i bobl hŷn fod yn anweledig i bob pwrpas i lunwyr polisïau a phenderfynwyr gan nad ydynt yn deall yn iawn beth yw anghenion pobl wrth iddynt benderfynu sut y dylai adnoddau a gwasanaethau gael eu targedu.
Ochr yn ochr â hyn, rhaid i bobl hŷn gael cyfrannu at ddyluniad a datblygiad polisïau a gwasanaethau, a hynny mewn ffordd ystyrlon. Mae llawer o bobl hŷn yn ‘arbenigwyr drwy brofiad’ a bydd sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed yn helpu i wella polisïau ac arferion gweithio ac i wneud ein polisïau’n fwy oed gyfeillgar.
Fel Comisiynydd, rwyf eisiau gweld Cymru lle mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, lle mae hawliau’n cael eu diogelu a lle nad oes neb yn cael eu gadael ar ôl, a bydd cymryd y camau hyn i fynd i’r afael â rhagfarn ar sail oedran, sy’n sail i lawer o’r problemau mae pobl hŷn yn eu hwynebu, yn rhan allweddol o gyflawni hyn.