Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru eisiau clywed gan bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, eu ffrindiau a’u teulu, a staff cartrefi gofal am eu profiadau yn ystod y pandemig Covid-19 a’r cyfyngiadau symud.
Mae’r Comisiynydd eisiau clywed am unrhyw broblemau a heriau roedden nhw wedi’u hwynebu neu maen nhw yn eu hwynebu nawr, a’r hyn mae angen ei newid i amddiffyn ac i gefnogi pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal. Mae hi hefyd eisiau i bobl rannu enghreifftiau o unrhyw weithgareddau ac ymarfer da mewn cartrefi gofal sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl hŷn.
Bydd yr wybodaeth a fydd yn cael ei rhannu yn cefnogi’r Comisiynydd gyda’i gwaith parhaus i ddylanwadu ar y camau sy’n cael eu cymryd i amddiffyn pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, ac yn ei helpu i graffu ar ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i’r pandemig Covid-19 a’u dal i gyfrif am y penderfyniadau maen nhw wedi’u gwneud.
Yn ogystal â hyn, bydd y Comisiynydd hefyd yn defnyddio’r wybodaeth a fydd yn cael ei rhannu fel sylfaen dystiolaeth rymus i siapio’r drafodaeth a’r ddadl ehangach am sut mae angen trawsnewid gofal cymdeithasol, a’r hyn sydd ei angen i sicrhau bod gofal cymdeithasol yn cael ei werthfawrogi a’i gefnogi’n briodol, wrth inni edrych tua’r dyfodol.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae cartrefi gofal yn chwarae rhan hanfodol drwy helpu i sicrhau bod rhai o’n dinasyddion mwyaf agored i niwed yn cael yr ansawdd bywyd gorau posibl a dylent fod yn llefydd lle mae pobl hŷn yn cael eu cadw’n ddiogel ac yn saff. Mae’r hyn rydym wedi’i weld yn ein cartrefi gofal dros yr wythnosau diwethaf yn drychineb, ac rwy’n cydymdeimlo â theuluoedd a ffrindiau ledled Cymru sydd wedi colli anwyliaid.
“Rwyf eisiau rhoi llais i’r bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal, eu teulu a’u ffrindiau, a gweithwyr gofal ledled Cymru er mwyn gallu defnyddio eu profiadau i sicrhau bod y camau cywir yn cael eu cymryd i ddiogelu ac i gefnogi pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal.
“Mae eu profiadau’n golygu mai nhw yw’r arbenigwyr, ac mae hi’n hanfodol bod eu lleisiau’n cael eu clywed a’u bod wrth galon y trafodaethau a’r cynlluniau ynghylch beth fydd yn digwydd nesaf wrth i ni ddilyn y llwybr anodd sydd o’n blaenau.
“Rwyf eisiau clywed am y problemau a’r heriau mae pobl wedi’u hwynebu neu’n dal i’w hwynebu, ac a yw’r camau a’r gefnogaeth a gafodd eu haddo – ar brofion a darparu cyfarpar diogelu personol er enghraifft – yn cael eu gweithredu ar lawr gwlad ai peidio.
“Bydd hyn yn fy helpu i graffu’r camau sydd wedi cael eu cymryd mewn ymateb i Covid-19 a dal Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i gyfrif, ac ar ben hynny, bydd yn sicrhau bod lleisiau pobl hŷn, eu teuluoedd, eu ffrindiau a staff cartrefi gofal wrth galon trafodaethau, dadleuon a phenderfyniadau ynghylch dyfodol gofal cymdeithasol yng Nghymru.”