Hoffai Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru glywed gan bobl hŷn ledled Cymru am eu profiadau o deithio i apwyntiadau gyda’u meddygon teulu neu yn yr ysbyty, er mwyn ei helpu i nodi sut byddai modd gwella trafnidiaeth i’r gwasanaethau hyn, yn ogystal â’r arferion da sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl hŷn.
Bydd profiadau pobl hŷn, a’u syniadau ynghylch sut byddai modd gwella trafnidiaeth i wasanaethau iechyd, yn rhoi sail i adroddiad a fydd yn cael ei gyhoeddi ddiwedd y flwyddyn.
Mae llawer o’r bobl hŷn mae’r Comisiynydd a’i thîm wedi cwrdd a siarad â nhw ledled Cymru wedi bod yn tynnu sylw at yr heriau maen nhw’n gallu eu hwynebu yn aml wrth deithio i apwyntiadau gyda’u meddyg teulu neu yn yr ysbyty, a sut gall yr heriau hyn effeithio ar eu hiechyd a’u lles.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae’n hollbwysig bod pobl hŷn yng Nghymru yn gallu cael mynediad rhwydd at drafnidiaeth i fynd i apwyntiadau gyda’u meddyg teulu neu yn yr ysbyty, er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn iach ac yn annibynnol.
“Fodd bynnag rydw i’n gwybod, o siarad â llawer o bobl hŷn ledled Cymru, fod mynediad at drafnidiaeth ar gyfer apwyntiadau meddygol hanfodol yn prysur ddod yn fater sy’n peri pryder a gofid iddynt.
“Dyma pam rydw i eisiau clywed yn gan bobl hŷn yn uniongyrchol am eu profiadau o drafnidiaeth i wasanaethau iechyd, er mwyn gallu nodi lle mae angen gwella yn ogystal â hybu’r arferion da sydd eisoes ar waith ac yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol – gan gynnwys rhai y byddai modd eu cyflwyno’n ehangach ledled Cymru.”
Gall pobl hŷn lenwi’r arolwg ar-lein drwy fynd i wefan y Comisiynydd – http://www.olderpeoplewales.com/wl/Reviews/TransportToHealth.aspx – neu gallant wneud cais am gopi caled drwy gysylltu â swyddfa’r Comisiynydd ar 03442 640 670.
DIWEDD