Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus eraill i weithredu ar unwaith er mwyn sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu ‘gadael ar ôl’ wrth i Gymru ddechrau symud tuag at adferiad yn dilyn Covid-19.
Mae hyn yn dod wrth gyhoeddi adroddiad newydd, ‘Gadael neb ar ôl: Camau gweithredu ar gyfer adferiad o blaid pobl hŷn’. Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar yr effaith sylweddol mae Covid-19 wedi’i chael ar bobl hŷn ledled Cymru, ac yn cynnwys camau gweithredu mewn nifer o feysydd allweddol – gan gynnwys gofal cymdeithasol ac iechyd, yr economi a’n cymunedau – y mae’n rhaid eu cymryd wrth i ni symud ymlaen i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cyfrannu’n llawn at yr adferiad yng Nghymru, ac yn gallu cael gafael ar unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt.
Mae’r adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth a gasglwyd drwy ymgysylltu’n helaeth â phobl hŷn, sydd wedi rhannu eu profiadau â’r Comisiynydd drwy gydol y pandemig, yn ogystal â gwybodaeth a thystiolaeth a gasglwyd drwy ymgysylltu’n barhaus â chyrff a sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan.
Mae’r Comisiynydd wedi nodi camau ymarferol y mae’n rhaid eu cymryd ar unwaith i fynd i’r afael â phroblemau sydd wedi’u creu gan y pandemig, yn ogystal â chamau tymor hwy i fynd i’r afael â’r problemau strwythurol ehangach sy’n effeithio ar bobl hŷn ac sydd wedi gwaethygu yn sgil Covid-19. Mae’r camau hyn yn cynnwys:
- Diddymu adrannau o’r Ddeddf Coronafeirws a allai beryglu hawliau pobl hŷn i gael gofal a chymorth.
- Sefydlu rhaglen adsefydlu ar gyfer pobl hŷn y mae Covid-19 wedi cael effaith gorfforol a/neu feddyliol arnynt.
- Sefydlu rhaglen benodol i helpu gweithwyr hŷn i barhau i weithio neu i ailhyfforddi os ydyn nhw’n wynebu colli eu swydd.
- Buddsoddi mewn ymgyrch benodol a chymorth i gynyddu’r nifer sy’n hawlio Credyd Pensiwn.
- Rhoi cymorth wedi’i deilwra i bobl hŷn er mwyn iddyn nhw allu mynd ar-lein, gan gynnwys darparu dyfeisiau hawdd eu defnyddio sydd â mynediad i’r rhyngrwyd.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Ar ôl misoedd o darfu sydd wedi cael effaith sylweddol ar bobl hŷn, rydym nawr yn gweld llawer iawn o drafod a dadlau am y newidiadau sydd eu hangen a sut bydd y dyfodol yn edrych.
“Ond mae llawer o’r bobl hŷn rydw i wedi siarad â nhw’n poeni y byddan nhw’n cael eu ‘gadael ar ôl’ wrth i Gymru symud i’r cyfnod adfer, ac na fyddan nhw’n gallu cael y gefnogaeth angenrheidiol.
“Mae fy adroddiad yn cynnwys y camau gweithredu mae pobl hŷn eisiau ac angen eu gweld, ar unwaith ac yn y tymor hwy, i fynd i’r afael â’r problemau a’r heriau maen nhw wedi’u hwynebu yn ystod y misoedd diwethaf, i ddiogelu hawliau pobl hŷn ac i sicrhau bod camau’n cael eu cymryd i fynd i’r afael â phroblemau ehangach sy’n ymwneud â gwasanaethau a chymorth i bobl hŷn – gyda nifer ohonyn nhw wedi gwaethygu yn sgil Covid-19.”
Mae’r Comisiynydd eisoes wedi dechrau gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus allweddol eraill i sicrhau bod profiadau ac anghenion pobl hŷn yn siapio eu cynlluniau wrth iddyn nhw symud ymlaen, a bydd yn defnyddio’r adroddiad fel sylfaen o dystiolaeth bwerus i sbarduno newid i bobl hŷn.
Ychwanegodd y Comisiynydd:
“Mae’r pandemig wedi taflu goleuni ar lawer o’r problemau sy’n wynebu pobl hŷn ledled Cymru, ac rydym wedi gweld effaith anghymesur Covid-19 ar lawer o grwpiau mewn cymdeithas, sy’n adlewyrchu anghydraddoldeb a gwahaniaethu systemig sy’n bodoli ers cryn amser.
“Ond drwy gydol y pandemig, rydym hefyd wedi gweld sawl enghraifft o weithredu cymunedol cadarnhaol ledled Cymru sydd wedi rhoi cefnogaeth hollbwysig i’r rheini a oedd angen y gefnogaeth honno, gan gynnwys llawer o bobl hŷn.
“Wrth i Gymru ddechrau symud tuag at adferiad, rhaid i ni adeiladu ar y gweithredu cadarnhaol yma sydd wedi cyflawni cymaint i gynifer o bobl, ochr yn ochr â chydnabod y cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i’n cymunedau a’n heconomi, a hyrwyddo undod rhwng y cenedlaethau. Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.”
Cliciwch yma i lawrlwytho Gadael neb ar ôl: Camau gweithredu ar gyfer adferiad o blaid pobl hŷn