Rhaid i’r Prif Weinidog nesaf roi sicrwydd ynghylch y Clo Triphlyg ar Bensiynau, meddai’r Comisiynydd Pobl Hŷn
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw ar y Prif Weinidog newydd i ymrwymo i gynnal y Clo Triphlyg ar Bensiynau er mwyn rhoi sicrwydd i bobl hŷn. Mae ei datganiad llawn isod:
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Yn wyneb y cythrwfl yn San Steffan dros yr wythnosau diwethaf, mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi nifer o ddatganiadau sy’n gwrthdaro ynghylch a fydd y Clo Triphlyg ar Bensiynau yn cael ei gynnal er mwyn codi Pensiwn y Wladwriaeth yn unol â chwyddiant, sydd bellach wedi codi i dros 10%.
“Bydd hyn wedi peri i lawer o bobl hŷn deimlo’n bryderus y byddant yn gweld gostyngiad pellach yn eu hincwm mewn termau real, gan greu rhagor o bwysau ariannol a straen a phryder sylweddol.
“Rydyn ni’n gwybod bod pobl hŷn eisoes yn torri’n ôl ar hanfodion mewn ymdrech i arbed arian, rhywbeth sy’n peryglu iechyd pobl, a bydd hyn yn gwaethygu os bydd ansicrwydd parhaus ynghylch y Clo Triphlyg sy’n golygu nad yw pobl hŷn yn gallu cynllunio i reoli eu harian ar gyfer y misoedd i ddod.
“Rwy’n galw ar y Prif Weinidog nesaf i wneud ymrwymiad cadarn a chlir i gynnal y Clo Triphlyg ar gyfer y flwyddyn hon a’r blynyddoedd i ddod, gan gyflawni’r addewid a wnaed yn eu maniffesto ar gyfer 2019 er mwyn rhoi sicrwydd i bobl hŷn.
“Bydd sicrhau bod camau’n cael eu cymryd er mwyn i Bensiwn y Wladwriaeth gynyddu yn unol â chwyddiant yn hanfodol i ddiogelu iechyd a lles cannoedd ar filoedd o bobl hŷn ledled y DU, a rhaid i hyn fod yn flaenoriaeth i’r Prif Weinidog newydd pan fydd yn dechrau yn ei swydd yr wythnos nesaf.
“Yn y tymor hir, rhaid i Lywodraeth y DU hefyd adolygu ac uwchraddio’r Taliad Tanwydd Gaeaf yn barhaol, gan gydnabod y gostyngiad yn ei werth mewn termau real ers iddo gael ei osod y tro diwethaf, yn ogystal â chynnal adolygiad cynhwysfawr o Bensiwn y Wladwriaeth a hawliau eraill i sicrhau bod incwm pobl hŷn yn ddigon i ddarparu safon byw dderbyniol.”