Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi galw am i hawliau dynol fod yn sylfaen i’r Ymchwiliad Covid-19 arfaethedig i sicrhau bod y materion allweddol a effeithiodd ar bobl hŷn yn ystod y pandemig yn cael eu harchwilio’n briodol, er mwyn gallu dysgu gwersi a sicrhau gwelliannau.
Mae ymateb y Comisiynydd i’r Cylch Gorchwyl drafft a gyhoeddwyd yn ddiweddar hefyd yn nodi’r angen i’r Ymchwiliad archwilio effaith anghymesur y pandemig a’r cyfyngiadau cymdeithasol ar bobl hŷn, yn ogystal â materion penodol fel defnyddio hysbysiadau Peidio â Cheisio Dadebru CPR (DNACPR), ac a oedd gwahaniaethu ar sail oedran yn effeithio ar gyfleoedd i gael gafael ar driniaeth a gwasanaethau.
Dywed y Comisiynydd mai un o’r prif flaenoriaethau yw galluogi a chefnogi pobl hŷn i rannu eu profiadau, gan gynnwys pobl sydd wedi colli anwyliaid a phobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, a bod yn rhaid i’r Ymchwiliad estyn allan yn uniongyrchol at bobl hŷn ledled Cymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed a bod eu tystiolaeth yn gallu cyfrannu at ganfyddiadau ac argymhellion y panel.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Er bod y Cylch Gorchwyl drafft yn gynhwysfawr ar y cyfan, mae’n hanfodol bod yr Ymchwiliad yn canolbwyntio mwy ar hawliau dynol er mwyn sicrhau bod craffu priodol ar y penderfyniadau a wnaed a’r camau a gymerwyd mewn ymateb i’r pandemig. Mae angen hefyd ystyried y modd y mae’r penderfyniadau hyn wedi effeithio ar bobl hŷn.
“Drwy gydol y pandemig rydyn ni wedi gweld enghreifftiau lle mae’n ymddangos nad yw hawliau pobl hŷn wedi cael eu diogelu’n ddigonol – fel defnyddio DNACPR a chael gafael ar driniaeth a gwasanaethau – a rhaid i’r Ymchwiliad allu archwilio’r materion hyn yn fanwl o ystyried yr effaith sylweddol ac anghymesur y mae’r pandemig a’r cyfyngiadau cymdeithasol wedi’i chael ar bobl hŷn.
“Rhaid galluogi a chefnogi pobl hŷn i rannu eu profiadau a darparu tystiolaeth bwysig i sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu a bod gwelliannau’n cael eu cyflawni’n gyflym. Mae’n rhaid i’r Ymchwiliad estyn allan yn uniongyrchol at bobl hŷn ledled Cymru i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
“Er mwyn cefnogi hyn, mae angen cynrychiolaeth o Gymru ar y Panel Ymchwilio er mwyn sicrhau bod natur unigryw wleidyddol, ddiwylliannol a deddfwriaethol Cymru yn cael ei deall yn iawn ac yn cael ei chynnwys mewn cynlluniau ar gyfer bwrw ymlaen â chasglu tystiolaeth gan unigolion a sefydliadau. Rhaid i hynny gynnwys sesiynau tystiolaeth a gynhelir yma yng Nghymru.
“Rwy’n croesawu’r ymrwymiad yn y Cylch Gorchwyl i gyhoeddi canfyddiadau interim, a fydd yn bwysig er mwyn darparu atebion y mae mawr eu hangen, a helpu i sicrhau newid a gwelliannau wrth i ni adfer fel cenedl.”