Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Pwysigrwydd dod â chenedlaethau at ei gilydd

i mewn Newyddion

Yr wythnos hon, mae’r Comisiynydd wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd â’r Comisiynydd Plant a Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol i dynnu sylw at bwysigrwydd gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau. Yn ei blog diweddaraf, mae hi’n ystyried sut gallai’r math hwn o weithgareddau helpu i roi terfyn ar oedraniaeth a chamdriniaeth, a gwneud ein cymunedau’n fwy cyfeillgar i oedran…

Ar yr olwg gyntaf, efallai nad yw’r cysylltiadau’n amlwg rhwng gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau – fel plant yn ymweld â chartrefi gofal, pobl hŷn yn ymweld ag ysgolion, neu gorau sy’n pontio’r cenedlaethau – a fy mlaenoriaethau fel Comisiynydd i roi diwedd ar wahaniaethu ar sail oedran, atal cam-drin a galluogi pawb i heneiddio’n dda, fel y nodwyd yn fy strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

Ond mae’r mathau hyn o weithgareddau’n hanfodol, nid yn unig oherwydd y manteision sydd ganddynt i’r unigolion sy’n gysylltiedig, ond hefyd oherwydd y rhan y gallant ei chwarae wrth helpu i wneud cynnydd tuag at y materion allweddol hyn.

Rydyn ni’n gwybod, er enghraifft, bod gwahaniaethu ar sail oedran yn digwydd yn haws pan fydd rhywbeth o’r enw ‘arwahanu’ yn digwydd, pan fydd unigolion yn datgysylltu eu hunain oddi wrth y broses o dyfu’n hŷn ac oddi wrth bod yn berson hŷn (boed hynny nawr neu yn y dyfodol). Mae hyn yn ei gwneud yn haws i unigolion (neu gymdeithas) stereoteipio pobl a chael agweddau negyddol tuag atynt.

Fodd bynnag, mae tystiolaeth yn dangos bod hyn yn llai tebygol o ddigwydd pan fydd cysylltiadau wedi’u ffurfio, fel cyfeillgarwch sy’n pontio’r cenedlaethau. Dyna un o’r nifer o resymau pam mae hi mor bwysig rhoi cyfleoedd i bobl hŷn a phobl ifanc dreulio amser gyda’i gilydd mewn ffordd feddyliol, er mwyn galluogi’r mathau hyn o gysylltiadau i ddatblygu.

Hefyd, gallai gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau chwarae rhan wrth helpu i atal cam-drin pobl hŷn, yn enwedig mewn lleoliadau nad ydynt mor weladwy yn ein cymunedau, fel cartrefi gofal. Drwy agor cartrefi gofal i ymwelwyr o bob oedran, gan gynnwys plant, byddai modd i gyfeillgarwch sy’n pontio’r cenedlaethau ddatblygu a byddai’r cartrefi gofal a’u preswylwyr yn cael eu hystyried yn rhan o’u cymunedau. Yn ogystal, byddai hyn yn golygu y byddai mwy o bobl yn gallu sylwi pan fo rhywbeth o’i le, a byddent yn gallu gweld arwyddion posibl o gam-drin a mynegi eu pryderon.

Os yw achosion o gam-drin yn cael eu hatgyfnerthu gan gyfrinachedd ac arwahanrwydd, fel sy’n digwydd yn aml, gorau fo fwyaf y gallwn ni ei wneud i sicrhau bod pobl hŷn yn ymgysylltu â phobl eraill, ac yn rhan o fywydau pobl eraill.

Ochr yn ochr â gwaith i ddatblygu gweithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau a chreu cyfleoedd i’n cenedlaethau hŷn ac iau dreulio amser gyda’i gilydd, mae hefyd yn bwysig bod cymunedau ledled Cymru yn gallu helpu i sicrhau bod cysylltiadau sy’n pontio’r cenedlaethau yn digwydd yn naturiol.

Rhan allweddol o fy ngwaith o alluogi pawb i heneiddio’n dda yw cefnogi’r gwaith o ddatblygu cymunedau sy’n ystyriol o oedran, sydd wedi’u diffinio gan Sefydliad Iechyd y Byd fel cymunedau sy’n annog cyfranogiad, parch a chynhwysiant cymdeithasol, yn ogystal â darparu tai, trafnidiaeth, mannau yn yr awyr agored a gwasanaethau sy’n diwallu anghenion pobl hŷn.

Mae cymunedau sy’n ystyriol o oedran yn ein galluogi ni gyd i fod yn rhan o’n cymunedau wrth i ni heneiddio, i gadw’n weithgar a chymryd rhan ynddynt, yn hytrach na chael ein hanablu ganddynt. Pan fydd cymunedau’n ystyriol o oedran, maent yn ‘ystyriol’ o bobl o bob oedran a phobl ag anghenion gwahanol, boed y bobl hynny’n bobl hŷn, pobl ag anableddau, rhieni â phlant ifanc, neu blant eu hunain. Mae’r mathau hyn o gymunedau’n annog mwy o ryngweithio rhwng pobl o wahanol oedrannau a phobl ag anghenion gwahanol, rhywbeth sy’n helpu cysylltiadau sy’n pontio’r cenedlaethau i ddatblygu a ffynnu.

2012 oedd Blwyddyn Ewropeaidd Heneiddio’n Egnïol a Phontio’r Cenedlaethau, a chynhaliwyd amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n pontio’r cenedlaethau ledled Ewrop. Ond yn fwy diweddar mae ein cenedlaethau hŷn ac iau wedi cael eu gosod yn erbyn ei gilydd ac mae arwyddion yn dangos bod casineb rhwng y cenedlaethau’n dechrau tyfu. Rhaid i ni aildanio’r syniad o bontio’r cenedlaethau a dod â phobl o genedlaethau gwahanol at ei gilydd er mwyn i ni allu dysgu gan ein gilydd, gweithio gyda’n gilydd, herio pob myth a stereoteip a dathlu’r holl bethau sydd gennym yn gyffredin, y pethau sy’n ein huno ni gyd. 


Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges