Pwysau ar y GIG yn golygu y gallai pobl hŷn fod yn peryglu eu hiechyd, medd y Comisiynydd
Mae’r Comisiynydd am weld pobl hŷn yn rhannu eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd
Gallai pobl hŷn yng Nghymru fod yn peryglu eu hiechyd drwy beidio â defnyddio gwasanaethau iechyd holl bwysig, yn ôl canfyddiadau arolwg a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru.1
Dywedodd dros 40% o’r bobl hŷn a holwyd eu bod yn llai tebygol o ymweld ag Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys, cae apwyntiad â Meddyg Teulu neu gysylltu â gwasanaeth Meddyg Teulu y tu allan i oriau oherwydd y pwysau sydd ar wasanaethau’r GIG.2 Canfu’r arolwg hefyd fod 9 o bob 10 o bobl hŷn yn poeni am gyflwr y GIG, a dywedodd dros dri chwarter eu bod yn poeni am wasanaethau gofal cymdeithasol.3
Mae’r Comisiynydd yn poeni y gallai hyn olygu nad oes nifer sylweddol o bobl hŷn yn gofyn am help meddygol pan fydd ei angen arnynt, hyd yn oed ar adegau a allai eu hachos fod yn un difrifol a bod angen iddynt ymweld â’r Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys.
Mae’r Comisiynydd wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd i fynegi ei phryderon, ac mae wedi galw am weithredu i sicrhau nad yw pobl hŷn yn dewis peidio manteisio ar y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnynt,
Mae’r Comisiynydd eisiau i bobl hŷn gysylltu â’i swyddfa i rannu eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd, neu brofiadau aelodau o’u teulu neu eu ffrindiau, yn enwedig os yw pwysau ar wasanaethau wedi gweithredu fel rhwystr i rywun sydd angen neu sy’n cael triniaeth.
Mi all pobl hŷn gysylltu â’r Comisiynydd dros y ffôn, drwy lythyr neu e-bost, neu drwy ffurflen ar-lein. Mae’r Comisiynydd hefyd yn gweithio â grwpiau pobl hŷn allweddol i gyrraedd aelodau ym mhob rhan o Gymru.
Wrth drafod canfyddiadau’r arolwg, dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:
“Mae canfyddiadau fy arolwg, sy’n cofnodi profiadau pobl hŷn 60+ oed sy’n byw ym mhob rhan o Gymru, yn dangos inni ba fath o bethau sy’n poeni pobl hŷn wrth feddwl am gyflwr presennol y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Mae’n amlwg o’r canfyddiadau bod cryn dipyn o bryder ymhlith pobl hŷn ynglŷn â chyflwr presennol y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru.
“Mae’n ymddangos hefyd fod y pwysau a glywn sydd ar y GIG yn cael effaith ar fynediad pobl at wasanaethau iechyd, gyda chanran sylweddol o bobl hŷn – dros 40% – yn dweud eu bod yn llai tebygol o ymweld ag Adran Ddamweiniau ac Achosion brys, ceisio cael apwyntiad â’u Meddyg Teulu neu gysylltu â gwasanaeth Meddyg Teulu y tu allan i oriau.
“Mae hyn yn achos pryder mawr os yw pobl hŷn yn osgoi gofyn am help meddygol os oes ei angen arnynt gan y gallai hynny fod yn peryglu eu hiechyd, boed hynny yn ystod cyfnod o argyfwng, neu yn y tymor hwy.
“Mi wn fod staff y GIG wedi bod yn gweithio’n eithriadol o galed i ddelio â phob math o bwysau yn ystod misoedd y gaeaf, ond mae’n hanfodol nad yw pobl hŷn yn teimlo na ddylent ofyn am yr help sydd ei angen arnynt gan y GIG.
“Rwyf wedi rhannu fy mhryderon â’r Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan AS, ac rwyf wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio â byrddau iechyd i roi sicrwydd i bobl hŷn bod gwasanaethau ar gael a’u bod yn hygyrch, ac y dylai pobl gysylltu â’r GIG os ydynt yn pryderu am eu hiechyd.
“Rwyf hefyd am weld pobl hŷn yn cysylltu â fy swyddfa i rannu eu profiadau o ddefnyddio gwasanaethau iechyd, yn enwedig lle mae pwysau ar y GIG wedi arwain at oedi neu wedi atal rhywun rhag chwilio am neu gael triniaeth. Bydd hyn yn fy helpu i ddeall yn well beth yw’r problemau penodol mae pobl yn eu profi ac i weld pa gamau penodol y mae angen i Lywodraeth Cymru a byrddau iechyd eu cymryd.”
DIWEDD
Dylai holl ymholiadau’r cyfryngau gael eu cyfeirio at Richard Jones ar 07515 288271 neu drwy e-bostio richard.jones@olderpeople.wales
Nodiadau i olygyddion
1: Cafodd cyfanswm o 503 o gyfweliadau eu cynnal â sampl gynrychioliadol o boblogaeth Cymru sy’n 60 oed a hŷn. Cafodd yr holl gyfweliadau eu cynnal dros y ffôn drwy ddefnyddio technoleg CATI (Cyfweliadau Ffôn gyda Chymorth Cyfrifiadur) rhwng 28 Chwefror a 17 Mawrth 2023.
2: Roedd y cwestiynau canlynol wedi’u cynnwys yn yr arolwg:
- Wrth feddwl am y pwysau y clywn sydd wedi bod ar y GIG yn ystod y misoedd diwethaf, a yw hyn wedi eich gwneud yn llawer mwy tebygol, ychydig yn fwy tebygol, ychydig yn llai tebygol, yn llawer llai tebygol o wneud y canlynol, ynteu nid yw wedi gwneud dim gwahaniaeth? – Ceisio cael apwyntiad Meddyg Teulu [dywedodd 21% eu bod yn ‘llai tebygol’, dywedodd 24% eu bod yn ‘llawer llai tebygol’]
- Wrth feddwl am y pwysau y clywn sydd wedi bod ar y GIG yn ystod y misoedd diwethaf, a yw hyn wedi eich gwneud yn llawer mwy tebygol, ychydig yn fwy tebygol, ychydig yn llai tebygol, yn llawer llai tebygol o wneud y canlynol, ynteu nid yw wedi gwneud dim gwahaniaeth? – Mynd i Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys [dywedodd 17% eu bod yn ‘llai tebygol’, dywedodd 27% eu bod yn ‘llawer llai tebygol’]
- Wrth feddwl am y pwysau y clywn sydd wedi bod ar y GIG yn ystod y misoedd diwethaf, a yw hyn wedi eich gwneud yn llawer mwy tebygol, ychydig yn fwy tebygol, ychydig yn llai tebygol, yn llawer llai tebygol o wneud y canlynol, ynteu nid yw wedi gwneud dim gwahaniaeth? – Cysylltu â Meddyg Teulu y tu allan i oriau [dywedodd 14% eu bod yn ‘llai tebygol’, dywedodd 27% eu bod yn ‘llawer llai tebygol’]
3: Dywedodd 89% o’r ymatebwyr eu bod yn pryderu am gyflwr y GIG; dywedodd 77% eu bod yn bryderus am ofal cymdeithasol.
Am ragor o wybodaeth am waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ewch i: https://comisiynyddph.cymru/