Pobl hŷn yn gwerthfawrogi’r cymorth gan gymunedau cryf yng Nghymru, meddai’r Comisiynydd
Yn ôl canfyddiadau arolwg newydd a gynhaliwyd gan Gomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, mae’n ymddangos bod cymunedau cryf yng Nghymru yn darparu cymorth mawr i bobl wrth iddynt heneiddio yng Nghymru.
Dywedodd dwy ran o dair o’r ymatebwyr 60 oed a hŷn mai ‘ymdeimlad cryf o gymuned’ oedd y peth gorau am heneiddio yng Nghymru, gan dynnu sylw at y rôl hollbwysig y mae ein ffrindiau a’n cymdogion, yn ogystal â’r amwynderau yn ein cymunedau, yn aml yn ei chwarae o ran cefnogi ein hiechyd a’n llesiant, a’n galluogi i heneiddio’n dda.
Felly, mae sicrhau bod cymunedau yng Nghymru yn oed-gyfeillgar – lle mae pethau fel meinciau yn yr awyr agored, toiledau cyhoeddus a gwasanaethau trafnidiaeth da ar gael – yn hanfodol i sicrhau ein bod yn gallu cadw mewn cysylltiad â’n cymunedau, y cyfleoedd maen nhw’n eu darparu a’r cymorth maen nhw’n gallu ei gynnig wrth i ni fynd yn hŷn.
Mae’r Comisiynydd yn gweithio gydag awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith o ddatblygu a sefydlu cynlluniau oed-gyfeillgar, a fydd yn darparu amrywiaeth eang o gamau gweithredu a chynlluniau i alluogi pobl i heneiddio’n dda ledled Cymru.
Wrth drafod canfyddiadau’r arolwg, dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae Cymru’n adnabyddus am ei hysbryd cymunedol cryf, lle mae ffrindiau a chymdogion yn gofalu am ei gilydd ac yn cefnogi ei gilydd, a gwelwyd enghraifft o hyn yn ystod y pandemig.
“Felly, mae’n gadarnhaol iawn bod cymunedau’n dal i gael eu gwerthfawrogi gymaint gan bobl hŷn am y cyfleoedd a’r cymorth maen nhw’n eu cynnig, a’u bod hefyd yn ymddangos eu bod yn cyfrannu at helpu pobl i gael profiadau cadarnhaol wrth iddyn nhw fynd yn hŷn.
“Drwy wneud ein cymunedau’n fwy oed-gyfeillgar – drwy roi’r cymorth, y seilwaith a’r gwasanaethau cywir ar waith, dan arweiniad lleisiau pobl hŷn – gallwn helpu i sicrhau bod pobl yn gallu cadw mewn cysylltiad â’u ffrindiau a’u cymdogion a mynd allan a gwneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw. Mae’r pethau hyn yn hanfodol i helpu ein hiechyd meddyliol a chorfforol.
“Bydd hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bobl hŷn fod yn rhan o’u cymunedau a chyfrannu atynt, e.e. drwy bethau fel gwirfoddoli, sy’n werth cannoedd o filiynau o bunnoedd y flwyddyn i economi Cymru.
“Mae tua thraean o bobl 65 oed a hŷn yng Nghymru eisoes yn wirfoddolwyr, yn gwneud cymaint i gynifer o bobl mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Gyda’r mentrau oed-gyfeillgar cywir ar waith, gallai mwy fyth o bobl hŷn gael eu hysbrydoli i wirfoddoli.
“Dyna pam fy mod yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ledled Cymru a’u cefnogi wrth iddynt roi eu cynlluniau oed-gyfeillgar ar waith a chyflwyno prosiectau a mentrau newydd i gefnogi pobl i heneiddio’n dda.”
DIWEDD