Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Os ydych chi’n byw gyda chamdriniaeth y Nadolig hwn, cofiwch: Dydych chi ddim ar eich pen eich hun – mae cymorth a chefnogaeth ar gael

i mewn Newyddion

Gall y Nadolig fod yn gyfnod arbennig o anodd os ydych chi’n berson hŷn sy’n byw gyda chamdriniaeth, ond cofiwch nad ydych chi ar eich pen eich hun – mae cymorth a chefnogaeth ar gael. 

Dyna’r neges gan grŵp gweithredu o dros 30 o sefydliadau sydd wedi bod yn gweithio gyda’i gilydd drwy gydol y pandemig i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn.

Mae aelodau’r grŵp yn annog pobl hŷn sy’n cael eu cam-drin, neu sy’n poeni y gallent fod mewn perygl, i beidio â dioddef yn dawel y Nadolig hwn ac i ofyn am gymorth a chefnogaeth, a allai, mewn rhai achosion, achub bywydau.

Bydd gwasanaethau fel Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar gael drwy gydol y Nadolig, yn cynnig cymorth a chefnogaeth i bobl hŷn 24 awr y dydd, dros y ffôn, drwy e-bost, neges destun neu neges wib.

Maen nhw hefyd eisiau tynnu sylw at y rôl y gallwn ni i gyd ei chwarae o ran diogelu pobl hŷn y Nadolig hwn, drwy gadw llygad am arwyddion bod rhywun yn cael ei gam-drin neu mewn perygl o gael ei gam-drin.

Gallai’r rhain gynnwys arwyddion corfforol (fel cleisiau neu anafiadau anesboniadwy), newidiadau mewn ymddygiad, neu newidiadau mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau, gan gynnwys drwy gyfryngau cymdeithasol.

Dylai unrhyw un sy’n poeni am berson hŷn gysylltu â thîm diogelu eu cyngor neu ffonio’r heddlu ar 101 (neu 999 mewn argyfwng).

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Bydd hwn yn Nadolig anarferol i bob un ohonom, ond bydd yn arbennig o anodd i bobl hŷn sy’n cael eu cam-drin.

“Rydyn ni’n gwybod y gall fod yn anodd iawn gofyn am help, ond mae’n hanfodol nad yw pobl hŷn yn dioddef yn dawel a’u bod yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i’w cadw’n ddiogel. Rydyn ni eisiau i bobl wybod nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain – mae help ar gael.

“Mae’n rhaid i ni hefyd gofio’r rôl y gallwn ni i gyd ei chwarae o ran diogelu pobl hŷn y Nadolig hwn, drwy gadw llygad am unrhyw arwyddion bod rhywun yn cael ei gam-drin neu mewn perygl o gael ei gam-drin a rhoi gwybod i’w tîm diogelu lleol neu’r heddlu am unrhyw bryderon sydd gennych.”  

Dywedodd Ann Williams, Rheolwr Llinell Gymorth Byw Heb Ofn:

“Hoffem atgoffa unrhyw un sy’n chwilio am gefnogaeth dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd y bydd y Llinell Gymorth ar agor fel arfer. Bydd rhywun ar gael i wrando a chefnogi dioddefwyr, ffrindiau a theulu pryderus a gweithwyr proffesiynol 24 awr y dydd, bob dydd.

“Dylech fod yn dawel eich meddwl nad oes rhaid i neb ddioddef yn dawel – cofiwch ofyn am help.”

Llinell Gymorth Byw Heb Ofn: 

Ffôn: 0808 80 10 800
Testun: 07860 007733
E-bost: gwybodaeth@llinellgymorthbywhebofn.cymru 

Mae gwasanaeth negeseuon gwib ar gael hefyd drwy wefan Byw Heb Ofn: https://llyw.cymru/byw-heb-ofn




Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges