O’r Ddeddf Cymorth Gwladol i Wasanaeth Gofal Cenedlaethol?
Dathlu a gwerthfawrogi gofal cymdeithasol
Ar ryw adeg yn ein bywydau bydd y rhan fwyaf ohonom angen defnyddio gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymorth – yn bersonol neu i’n hanwyliaid. Mae’n wasanaeth i bob un ohonom. Wrth sefydlu’r GIG yn 1948 cafodd y gwasanaeth ei eni fel rhan o’r Ddeddf Cymorth Gwladol, ac rydym yn dathlu eu creu yr wythnos hon. Ond, oni ddylem hefyd fod yn dathlu gwasanaethau gofal cymdeithasol ac yn defnyddio’r eiliad hon i fwrw ymlaen â’r buddsoddiad a’r newidiadau sydd eu hangen ym maes gofal cymdeithasol?
Ond, er bod gofal cymdeithasol yn sector o bwysigrwydd cenedlaethol, nid yw ei rôl hanfodol yn cael ei gwerthfawrogi ddigon, fel sy’n cael ei amlygu gan fethiant un llywodraeth ar ôl y llall yng Nghymru a’r DU i gyflawni’r diwygiadau sydd eu hangen i sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol yn cael eu hariannu a’u staffio’n ddigonol, a’u fod ar gael i bob un ohonom sydd eu hangen.
I ormod ohonom, mae llywio drwy’r system gofal cymdeithasol yn gymhleth ac yn anodd. Gall fod yn anodd gwybod beth yw ein hawliau, beth y dylem fod yn gymwys i’w gael i ni ein hunain neu i’n hanwyliaid, a beth fydd angen i ni ei dalu. Mae aros i asesiadau a gofal gael eu trefnu; bod yn gaeth i’r ysbyty oherwydd diffyg gweithwyr gofal yn yr ardal er eich bod mewn cyflwr meddygol iach, neu fethu â dod o hyd i le mewn cartref gofal yn agos at deulu a ffrindiau, i gyd yn brofiadau cyffredin. Nid yw’n syndod bod pryder ynghylch gwasanaethau gofal cymdeithasol ymysg pobl hŷn yn uchel – mewn arolwg diweddar o bobl hŷn yng Nghymru, roedd 76% yn teimlo’n bryderus am gyflwr gofal cymdeithasol.
Mae anawsterau wrth gael gafael ar ofal cymdeithasol hefyd yn effeithio’n ehangach. Er enghraifft, mae angen i anwyliaid ysgwyddo cyfrifoldebau gofalu i sicrhau bod rhywun yn cael y gofal a’r cymorth sydd arnynt eu hangen, rhywbeth rydyn ni’n gwybod sy’n effeithio ar sawl agwedd o fywydau pobl.
Er bod cyllid ac adnoddau yn amlwg yn elfennau hanfodol o ran mynd i’r afael â’r mathau hyn o faterion, mae angen cymryd camau eraill hefyd i godi statws gofal cymdeithasol, a fyddai’n helpu i ddelio â materion ehangach fel recriwtio a chadw staff.
Mae angen i ni weld cydraddoldeb rhwng cyflogau ac amodau swyddi y GIG a swyddi tebyg ym maes gofal cymdeithasol. Mae angen inni hefyd gydnabod bod darparu gofal personol yn waith medrus, a sicrhau bod hyn yn cael ei adlewyrchu mewn polisïau sy’n ymwneud â thâl ac amodau. Ar ben hynny, mae angen i ni sicrhau bod cyfleoedd ar gyfer datblygiad a chynnydd personol er mwyn i bobl allu defnyddio eu sgiliau a datblygu gyrfa ym maes gofal cymdeithasol.
Mae’r syniad o Wasanaeth Gofal Cenedlaethol wedi cael ei drafod ers nifer o flynyddoedd fel ffordd bosibl o gyflawni’r camau diwygio sydd ei angen. Gallai dull gweithredu o’r fath gyflawni llawer iawn, yn enwedig o ran sicrhau mwy o gysondeb ar draws gwasanaethau mewn gwahanol ardaloedd, yn ogystal â sicrwydd mawr o ran disgwyliadau pobl am y gofal y byddant yn ei gael, ac unrhyw gostau y gallent eu hwynebu.
Ond fel mae’r llyfrau a’r erthyglau niferus sy’n ailadrodd hanes sefydlu’r GIG yn eu dangos (a fydd, mae’n siŵr, yn cael eu haildrafod fel rhan o’r dathliadau yr wythnos hon), bydd rhoi popeth ar waith a sefydlu system o’r fath yn gofyn am lawer iawn o waith dros nifer o flynyddoedd.
Felly, mae’n hanfodol nad yw cyfleoedd i gyflawni newid a gwelliannau yn cael eu colli yn y cyfamser. Rydym wedi gweld rhai camau cadarnhaol o ran polisi ac ymarfer yng Nghymru, ond mae angen camau gweithredu pellach y gellid eu cyflawni o fewn systemau presennol a chan ddefnyddio dylanwadau presennol.
A gall pob un ohonom – wrth i ni ddathlu sefydlu’r GIG – wneud yn siŵr ein bod hefyd yn cofio dathlu a thynnu sylw at y gwahaniaeth cadarnhaol y mae gofal cymdeithasol yn ei wneud i’n bywydau bob dydd.