Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Nid yw chwarter miliwn y bobl hŷn yng Nghymru yn deall eu hawliau

i mewn Newyddion

Darganfu Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru nad yw traean o bobl hŷn yng Nghymru – dros chwarter miliwn o bobl – yn deall eu hawliau1, ac mae wedi cyhoeddi canllawiau newydd i rymuso pobl hŷn a sicrhau bod ganddyn nhw’r wybodaeth y maen nhw ei hangen i gael mynediad at yr hawliau sydd ganddyn nhw o dan amrediad o ddeddfwriaeth ac er mwyn herio cyrff cyhoeddus a darparwyr gwasanaethau os ydyn nhw’n teimlo bod eu hawliau wedi cael eu tramgwyddo.

Mae’r canllawiau yn amlinellu’r hawliau sydd gan bobl hŷn mewn amrediad o feysydd allweddol, fel cyflogaeth, gofal iechyd a thai, yn ogystal ag egluro bod yn rhaid trin hawliau pobl hŷn gydag urddas a pharch, cymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a’u diogelu a’u gwarchod.  Mae’r llyfryn hefyd yn cynnwys manylion ynglŷn â sefydliadau a all ddarparu pobl hŷn gyda help, cefnogaeth a chyngor mewn perthynas â’u hawliau.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: 

“Mae’r ffigurau hyn yn nodi nad yw nifer sylweddol o bobl hŷn drwy Gymru – dros chwarter miliwn o bobl – yn deall eu hawliau.

“Tra bod Cymru wedi arwain y ffordd mewn llawer o ffyrdd er mwyn sicrhau bod dull yn seiliedig ar hawliau yn ategu cyflawniad y gwasanaethau cyhoeddus, drwy ddeddfwriaeth a rheoliadau, os nad yw unigolion yn deall yr hawliau sydd ganddyn nhw, bydd yn anodd iddyn nhw ddefnyddio eu hawliau yn eu bywydau bob dydd a gweithredu, os bydd angen, i sicrhau bod eu hawliau yn cael eu cynnal.

“Dyna pam yr ydw i wedi cyhoeddi canllawiau newydd ar gyfer pobl hŷn – i’w grymuso nhw, fel bod ganddyn nhw well dealltwriaeth ynglŷn â’u hawliau a’r ddeddfwriaeth sy’n eu hategu nhw, a sicrhau eu bod yn y sefyllfa gryfaf bosibl er mwyn herio gwahaniaethu annheg, gwasanaethau gwael neu ymarfer gwael.”

Mae’r canllawiau wedi cael eu cyhoeddi i gyd-fynd â Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, a gynhelir bob blwyddyn ar 1af Hydref ac mae’n dathlu’r cyfraniad sylweddol y mae pobl hŷn yn ei wneud i’r gymdeithas.  Eleni, mae’r ffocws ar hawliau pobl hŷn, yn arbennig felly dathlu eiriolwyr hawliau dynol drwy’r byd.

Bydd y canllawiau yn cael eu dosbarthu i bobl hŷn drwy Gymru drwy  randdeiliaid sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan.  Bydd copïau o’r daflen hefyd ar gael drwy gysylltu â swyddfa’r Comisiynydd.


1 – Cafwyd y ffigurau o bleidlais ffôn Beaufort Research Cyf ar ran Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.  Cyfanswm maint y sampl oedd 502 o oedolion oed 60+.  Gwnaed y gwaith maes rhwng 14 a 23 Medi 2018.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges