Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Neges Nadolig gan Heléna

i mewn Newyddion

Gyda Nadolig arall ar y gorwel, rydyn ni unwaith eto’n wynebu mwy o ansicrwydd ynglŷn â sut bydd cyfnod yr ŵyl a’r Flwyddyn Newydd yn edrych, nid yn unig i ni, ond i’n hanwyliaid, ein ffrindiau a’n cymunedau.

Ac er y bydd angen i gynlluniau a thraddodiadau newid eto eleni, mae’n hanfodol ein bod ni i gyd yn chwarae ein rhan i gadw ein gilydd yn ddiogel.

Er gwaethaf yr anawsterau a’r tarfu rydyn ni i gyd wedi’u profi drwy gydol y pandemig, mae’n gyfnod sydd wedi ein dangos ar ein gorau o ran pwy ydyn ni fel cymdeithas yn y ffyrdd rydyn ni wedi dod at ein gilydd i gynnig cymorth a chefnogaeth i’r bobl sydd ei angen, gan arwain at gyfeillgarwch, cysylltiadau a phartneriaethau newydd. Rydyn ni hefyd wedi gweld dyfalbarhad a gwytnwch anhygoel gan bobl hŷn, er gwaethaf yr heriau sylweddol a ddaeth yn sgil y pandemig.

Gyda’r potensial am ragor o gyfyngiadau ac anawsterau o’n blaenau, mae’n debyg ein bod ni’n teimlo’n siomedig ac wedi ymlâdd. Ond dylai’r cryfder a’r undod rydyn ni eisoes wedi’u dangos ein hysbrydoli ni wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddelio â cham nesaf y pandemig.

Hoffwn ddiolch i’r holl bobl hŷn sydd wedi cwrdd â mi ac wedi siarad â mi dros Zoom, yn ogystal â’r rheini sydd wedi ysgrifennu ataf neu wedi fy ffonio i rannu eu profiadau. Mae lleisiau pobl hŷn wedi bod yn amhrisiadwy o ran fy nghefnogi i alw am weithredu a dylanwadu ar bolisi ac ymarfer ledled Cymru.

Rwyf hefyd eisiau diolch i bawb sy’n gweithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan am bopeth maen nhw wedi’i wneud yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl o dan amgylchiadau eithriadol o anodd.

Wrth i ni nesáu at 2022, rwyf eisiau i bobl hŷn ledled Cymru wybod y byddaf yn parhau i chwarae fy rhan fel eu hyrwyddwr annibynnol, gan sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ac yr ymatebir iddynt.

Gan ddymuno Nadolig hapus, diogel ac iach i chi i gyd.

Heléna Herklots CBE
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges