Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Mynediad i Wasanaethau Iechyd yng Nghymru: Materion Trafnidiaeth a Rhwystrau

i mewn Newyddion

Mae fy adroddiad diweddaraf – Mynediad at Wasanaethau Iechyd yng Nghymru: Mae Materion a Rhwystrau Trafnidiaeth yn nodi canfyddiadau ymchwil i brofiadau pobl hŷn o gael mynediad at wasanaethau iechyd yng Nghymru a’r anawsterau maent yn eu hwynebu’n aml oherwydd materion sy’n ymwneud â thrafnidiaeth.

Mae’r canfyddiadau – ar sail tystiolaeth a gasglwyd gan gannoedd o bobl hŷn ledled Cymru a rhanddeiliaid allweddol – yn tynnu sylw at y rhwystrau a’r anawsterau sylweddol y gallai pobl hŷn eu hwynebu’n aml wrth deithio i wasanaethau iechyd o ganlyniad i’r opsiynau trafnidiaeth cyfyngedig sydd ar gael, a materion sy’n ymwneud ag ansawdd, hygyrchedd a dibynadwyedd.

Gan nad oedd yn bosibl cyhoeddi’r adroddiad fel y bwriadwyd ym mis Mawrth 2020 oherwydd y pandemig, gweithiais gyda nifer o randdeiliaid allweddol i sicrhau y byddai camau gweithredu a newidiadau yn cael eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â’r materion a nodwyd gennyf. Mae’r briff sydd ynghlwm yn cynnwys manylion y cynnydd sydd wedi’i wneud hyd yma.

Wrth i ni symud ymlaen, byddaf yn parhau i ymgysylltu â darparwyr trafnidiaeth a chyrff cyhoeddus i sicrhau y gallwn adeiladu ar y cynnydd hwn, a bod camau pellach yn cael eu cymryd i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau iechyd sydd eu hangen arnynt.

Ar ben hynny, mae’r materion sydd wedi’u nodi yn fy adroddiad – yn enwedig y rheini sy’n ymwneud â chynllunio ac ymgysylltu â phobl hŷn – yn cyd-fynd yn ehangach o ystyried y trafodaethau a’r dadleuon pwysig sy’n cael eu cynnal ar hyn o bryd ynghylch sut y bydd amrywiaeth eang o wasanaethau’n cael eu darparu yn y dyfodol.

Mae’n hanfodol bod y materion y gall pobl hŷn eu hwynebu wrth ddefnyddio gwasanaethau trafnidiaeth yn cael eu deall yn iawn, a bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed wrth i newidiadau gael eu hystyried i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl.

Cliciwch yma i lawrlwytho Mynediad i Wasanaethau Iechyd yng Nghymru: Materion Trafnidiaeth a Rhwystrau

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges