Wrth fyfyrio ar fy wythnos gyntaf fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, a dreuliais yn teithio ledled Cymru yn cyfarfod ac yn sgwrsio â phobl hŷn, y gair sy’n dod i’r meddwl yw ‘hyder’. Y fenyw hŷn sydd wedi meithrin hyder yn sgil mynd i ganolfan, a fyddai fel arall wedi bod yn unig gartref. Y dyn hŷn sy’n cwrdd â’i ffrindiau yn y caffi galw heibio. Teithwyr ar y gwasanaeth Galw’r Gyrrwr sydd â’r hyder i fynd i siopa gan wybod y byddant yn cael help i fynd o ddrws i ddrws.
Cwrddais hefyd â staff ymrwymedig ac ymroddedig, sydd â hyder yn y gwasanaethau maent yn eu darparu i roi cyfleoedd i bobl hŷn. Staff sy’n gweld ac yn teimlo’r effaith mae eu gwaith caled yn ei chael ar fywydau pobl hŷn. Yn atal unigrwydd, rhoi seibiant i ofalwyr, gwella lles, creu rhwydwaith o gefnogaeth a chymaint mwy.
Ond maent yn llai hyderus am ddyfodol y gwasanaethau maent yn eu darparu – yn aml am nad oes ganddynt sicrwydd cyllid hirdymor; gorfod delio â chanlyniadau anfwriadol newidiadau mewn polisi a rheoliadau; yr angen i hyrwyddo eu gwasanaethau’n barhaus er mwyn derbyn atgyfeiriadau a chyrraedd y bobl fyddai’n elwa fwyaf o’r hyn sydd ganddynt i’w gynnig.
Yn yr wythnosau a’r misoedd i ddod, bydda i’n ymweld â llawer o wasanaethau, grwpiau pobl hŷn a chydweithwyr sy’n gweithio i gefnogi pobl hŷn ledled Cymru. Nod yr ymweliadau hyn yw ystyried sut gallwn ni sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau i fynd yn hŷn. Pan fydda i’n cwrdd â phobl, rydw i’n awyddus i glywed beth sy’n gweithio; beth yw’r rhwystrau a’r heriau; beth sydd angen newid a sut gallwn ni wneud y newidiadau hynny – gyda’n gilydd.
Hyd yn oed ar ôl wythnos, rydw i’n hyderus y bydda i’n cwrdd â llawer o bobl ysbrydoledig sy’n gwneud llawer i sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau i fynd yn hŷn. Pobl fydd yn werthfawr iawn i helpu i lywio fy ngwaith a’m blaenoriaethau fel Comisiynydd.