Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw ar bleidiau gwleidyddol Cymru i sicrhau bod eu maniffestos yn eu hymrwymo i weithredu mewn ffordd a fydd yn helpu i sicrhau bod pobl hŷn yn gallu byw bywydau iach a chyflawn mewn cymdeithas sy’n gynhwysol ac sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi eu cyfraniad sylweddol, ac sy’n cynnal hawliau pobl.
Yn ei ‘Maniffesto ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2021’, a gyhoeddwyd heddiw, mae’r Comisiynydd yn nodi’r camau y bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru eu cymryd ar unwaith er mwyn helpu adferiad pobl hŷn ar ôl y pandemig a sicrhau eu bod wrth galon ein cymdeithas. Mae’r ddogfen hefyd yn cynnwys yr ymrwymiadau newydd sydd eu hangen o ran deddfwriaeth, polisïau ac adnoddau i gyflawni newid strwythurol hirdymor i wella bywydau pobl hŷn ledled Cymru yn ystod y pum mlynedd nesaf a’r tu hwnt.
Mae blaenoriaethau’r Comisiynydd ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru yn cynnwys sicrhau bod pobl hŷn yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau adsefydlu a’r cymorth y gallai fod eu hangen arnynt ar ôl y pandemig, yn ogystal â gweithredu i wneud ein cymunedau’n fwy ystyriol o oedran a chefnogi pobl hŷn i aros yn y gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith.
Mae’r Comisiynydd hefyd yn galw am weithredu ehangach i gefnogi heneiddio’n iach, mynd i’r afael â cham-drin pobl hŷn, dileu gwahaniaethu ar sail oed yn y gweithle, lleihau lefelau tlodi a thlodi tanwydd, a darparu mwy o gefnogaeth i ofalwyr di-dâl.
Er bod modd cyflawni llawer o’r hyn y mae’r Comisiynydd yn galw amdano drwy bwerau a mecanweithiau presennol Llywodraeth Cymru, mae hi hefyd wedi amlinellu’r ddeddfwriaeth sydd ei hangen i sicrhau newid ystyrlon i bobl hŷn. Mae hyn yn cynnwys deddfwriaeth i ddiogelu ac i hyrwyddo hawliau pobl hŷn, deddf gofal cymdeithasol newydd i gynyddu buddsoddiad yn ein system gofal cymdeithasol, gan gynnwys tyfu’r gweithlu gofal cymdeithasol a gwella telerau ac amodau ar gyfer staff presennol a staff y dyfodol, a deddfwriaeth i sefydlu hawl i bawb gael cysylltedd digidol.
Mae Maniffesto ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2021 hefyd yn cynnwys cyfres o egwyddorion craidd a fydd yn arwain ac yn sail i ddull gweithredu Llywodraeth nesaf Cymru o ran llywodraethu er mwyn sicrhau bod lleisiau a phrofiadau pobl hŷn yn eu holl amrywiaeth yn cael eu defnyddio i siapio polisïau ac arferion a’u bod yn rhan hanfodol o’r broses gwneud penderfyniadau.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Bydd y dewisiadau a’r penderfyniadau gwleidyddol a fydd yn cael eu gwneud gan Lywodraeth nesaf Cymru yn effeithio’n ddramatig ar fywydau pobl hŷn, nawr ac yn y dyfodol. Bydd adferiad Cymru ar ôl y pandemig yn creu nifer o heriau, ond mae nifer o gyfleoedd o’n blaenau hefyd.
“Rwyf wedi nodi’r camau gweithredu sydd eu hangen nawr ac yn y tymor hirach er mwyn sicrhau na fydd pobl hŷn yn cael eu gadael ar ôl wrth i Gymru symud ymlaen. Gobeithio y bydd fy ngalwadau’n cael eu hadlewyrchu ym maniffestos y pleidiau gwleidyddol a gyhoeddir cyn bo hir.
“Byddai gwneud yr ymrwymiadau hyn yn anfon neges gref i bobl hŷn ar hyd a lled Cymru bod cefnogi eu hadferiad o effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol y pandemig a mynd i’r afael â’r materion a’r heriau sy’n effeithio ar eu bywydau yn flaenoriaeth allweddol.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gweld trugaredd yn ein cymunedau lleol a’n gwasanaethau cyhoeddus, sydd wedi arwain at weithredu hollbwysig i gefnogi ein gilydd.
“Drwy fwrw ymlaen â’r camau rwy’n galw amdanynt, gall Llywodraeth nesaf Cymru adeiladu ar y partneriaethau a’r mentrau newydd sydd nawr ar waith; ysbrydoli a chefnogi camau gweithredu newydd; a gweithio gyda phobl hŷn, ac ar eu rhan, i gyflawni newid ystyrlon wrth iddi ein harwain i wynebu’r heriau ac i fanteisio ar y cyfleoedd sydd o’n blaenau.”
Cliciwch yma i lawrlwytho Maniffesto ar gyfer Etholiad y Senedd yn 2021