Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu’r cyhoeddiad gan Brif Weinidog Cymru y bydd y gofyniad i wisgo gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do yn parhau am y tro yng Nghymru.
“Hoffwn ddiolch i’r holl bobl hŷn a gysylltodd â mi i rannu eu barn am sut gallai newidiadau i’r cyfyngiadau effeithio ar eu bywyd, oherwydd mae hi mor bwysig bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed a’u defnyddio i lywio penderfyniadau.
“Dywedodd llawer o’r bobl hŷn a gysylltodd â mi eu bod eisiau i’r gofyniad yma barhau, ac y byddent yn teimlo’n bryderus pe bai’n cael ei ddileu’n awr, wrth ystyried y cynnydd yn nifer yr achosion a’r effaith y gallai hyn ei chael ar wasanaethau iechyd.
“Roedd y bobl hŷn a ymatebodd hefyd wedi rhannu pryderon am sut byddai dileu’r gofyniad yma’n effeithio ar eu bywyd o ddydd i ddydd, gan eu gwneud yn gyndyn o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus neu fynd i siopa, er enghraifft.
“Felly, rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi ymateb i fy nghais i – a chais sefydliadau eraill – i barhau i ddefnyddio gorchuddion wyneb dan do, a fydd yn rhoi mwy o hyder i bobl hŷn, yn lleihau pryder ynghylch mynd i grwydro yn y gymuned, ac yn helpu i sicrhau nad yw pobl hŷn yn cael eu gadael ar ôl wrth i ni symud ymlaen.”