Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:
“Rwy’n croesawu’n fawr y cyhoeddiad y bydd darpariaethau yn Neddf y Coronafeirws, sy’n rhoi’r pŵer i awdurdodau lleol gyfyngu ar hawliau pobl hŷn i gael asesiad o’u hanghenion ac i gael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt o ran gofal cymdeithasol, yn cael eu hatal.
“Rwyf wedi galw’n gyson am ddileu’r pwerau hyn, o ystyried y cymorth hanfodol y mae gofal cymdeithasol yn ei ddarparu i lawer o bobl hŷn ledled Cymru, a’r risgiau y mae’r darpariaethau hyn yn eu creu o ran cyfyngu ar hawliau pobl hŷn.
“Hoffwn ddiolch i bawb a ymunodd â mi i alw am y cam hollbwysig hwn, i sicrhau bod hawliau pobl hŷn yn cael eu diogelu a’u cynnal yn y cyfnod heriol yma.”