Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rwy’n croesawu datganiad y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am ei bwriad i gyhoeddi y gellir caniatáu ymweliadau dan do â chartrefi gofal yng Nghymru unwaith eto o 13 Mawrth ymlaen.
“Mae llawer o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal wedi cael eu gwahanu oddi wrth eu hanwyliaid ers amser maith ac wedi dioddef dirywiad sylweddol yn eu hiechyd meddyliol a chorfforol o ganlyniad.
“Mae cartrefi gofal, Llywodraeth Cymru ac amrywiol sefydliadau eraill wedi gweithio’n galed iawn i wneud hyn yn bosib, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi chwarae eu rhan i’n helpu i gyrraedd pwynt lle bydd modd ailddechrau caniatáu ymweliadau cyn bo hir. Bydd angen parhau i weithio mewn partneriaeth fel hyn i sicrhau bod modd rheoli ymweliadau’n ddiogel, a chaniatáu i ymwelwyr eraill ddechrau ymweld hefyd cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol.
“Byddaf hefyd yn dal ati i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn a’u hanwyliaid yn cael eu clywed ac y gweithredir arnynt.
“Rwy’n gwybod y bydd llawer o bobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi gofal a’u teuluoedd a’u ffrindiau yn falch o glywed y newyddion hwn ac yn edrych ymlaen yn arw at gael dod ynghyd eto ar ôl bod ar wahân am gyhyd.”