Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Mae’r Comisiynydd eisiau clywed am anawsterau mewn perthynas ag ymweld â chartrefi gofal

i mewn Newyddion

Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru eisiau clywed gan bobl hŷn sydd yn cael anawsterau gydag ymweliadau â chartrefi gofal, yn ogystal â’u teuluoedd a’u ffrindiau, yn dilyn newid arall yn y canllawiau yr wythnos hon i gael gwared â’r rheol ‘dau ymwelydd dynodedig’.

Wrth i’r canllawiau newid drwy gydol y gwanwyn, mae nifer o bobl wedi cysylltu â’r Comisiynydd ynghylch anawsterau mewn perthynas ag ymweliadau, gan fynegi pryderon ynghylch y bylchau rhwng y canllawiau a’r realiti ymarferol.

Gyda’r canllawiau newydd wedi eu sefydlu erbyn hyn, mae’r Comisiynydd yn annog unrhyw un sydd wedi wynebu anawsterau i gysylltu â’i swyddfa fel y gall asesu a yw’r achosion yn rhai unigol, neu a yw’r problemau yn fwy eang.

Bydd hynny yn sicrhau bod llais pobl sydd yn byw mewn cartrefi gofal (a’u teuluoedd a’u ffrindiau) yn cael eu clywed, a bydd hynny yn ei galluogi i rannu unrhyw bryderon gyda Llywodraeth Cymru a chyrff eraill, fel y gellir cymryd camau i gefnogi cartrefi gofal i allu trefnu ymweliadau diogel dan do.

Bydd unrhyw un fydd yn cysylltu â swyddfa’r Comisiynydd yn cael cynnig cyngor a chymorth gan ei thîm gwaith achos, er mwyn eu helpu i ddatrys unrhyw broblemau y maent efallai yn eu wynebu.

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Heléna Herklots CBE:

“Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw ymweliadau gan deulu a ffrindiau i les pobl hŷn sydd yn byw mewn cartrefi gofal, ac mae’r newid yn y canllawiau i gael gwared â’r cyfyngiadau ynghylch pwy all ymweld yn gam ymlaen gaiff ei groesawu. Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud mewn cartrefi gofal ledled Cymru er mwyn sicrhau bod mwy o ymweliadau yn bosibl, a hoffwn ddiolch i bawb am bopeth maent wedi ei wneud.

“Ond mae rhai problemau wedi cael eu mynegi i mi, ac mae’n hanfodol bod yr hyn y mae’r canllawiau yn ei addo yn cael ei weithredu yn gyson yn ymarferol.

“Dyna pam fy mod eisiau clywed gan bobl am eu profiadau – nid yn unig am y problemau a’r heriau y maent wedi eu wynebu, ond hefyd am yr arferion da gaiff eu rhoi ar waith sydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. Bydd hynny yn fy ngalluogi i benderfynu pa mor eang yw’r problemau mewn perthynas ag ymweliadau, ac i bennu’r math o gamau a chymorth all helpu i sicrhau y gall ymweliadau diogel fynd yn eu blaenau.

“Byddaf yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yn gwrando ar leisiau pobl hŷn, a byddaf yn mynegi unrhyw bryderon fydd gennyf fel y gellir datrys problemau.

“Bydd fy nhîm gwaith achos hefyd yn cynnig cyngor a chymorth wedi ei deilwra i unrhyw un sydd yn cysylltu â fi.

“Felly buaswn yn annog unrhyw un sydd wedi wynebu anawsterau mewn perthynas ag ymweliadau i gysylltu â fi fel y gallaf helpu.”

DIWEDD

 

 


 

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges