I nodi Wythnos Pontio’r Cenedlaethau’r Byd 2022 (25 Ebrill – 1 Mai), mae comisiynwyr Cymru ar gyfer pobl hŷn, plant a chenedlaethau’r dyfodol wedi dod at ei gilydd i dynnu sylw at bwysigrwydd hyrwyddo undod rhwng cenedlaethau a sicrhau cyfleoedd i bobl o wahanol oedrannau ddod ynghyd.
Mae pandemig Covid-19 wedi tynnu sylw at lawer o’r anghydraddoldebau yn ein cymdeithas, ond mae hefyd wedi dangos pwysigrwydd cymunedau sy’n cefnogi ei gilydd drwy gyfnodau anodd. Drwy ddefnyddio’r ysbryd cymunedol hwn, gall pob un ohonom helpu i gryfhau’r cysylltiadau rhyngom a hyrwyddo mwy o undod rhwng cenedlaethau wrth i ni ddod dros y pandemig Covid-19.
Dyma un o brif themâu Wythnos Pontio’r Cenedlaethau’r Byd eleni, sy’n ceisio ysbrydoli unigolion, grwpiau, sefydliadau, llywodraethau lleol a chenedlaethol, a chyrff anllywodraethol i groesawu arferion pontio’r cenedlaethau yn llawn a dod â phobl o bob cenhedlaeth at ei gilydd.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Mae creu ymdeimlad o undod rhwng cenedlaethau yn bwysicach nawr nag erioed o’r blaen wrth i ni barhau â’r adferiad ar ôl y pandemig Covid-19.
“Mae’r pandemig wedi cael effaith ddinistriol ar fywydau pobl ym mhob cenhedlaeth, gyda phobl hŷn a phobl iau yn wynebu heriau penodol o ran eu hiechyd a’u lles o ganlyniad i gyfnodau hir o unigrwydd.
“Drwy ddod â chenedlaethau ynghyd rydw i’n credu y gallwn ni greu cymunedau cryfach a mwy cydlynus sy’n cefnogi pobl hŷn i heneiddio’n dda ac sy’n galluogi pobl o bob cenhedlaeth i gyflawni eu potensial.”
Dywedodd Rocio Cifuentes, Comisiynydd Plant Cymru:
“Doedd y pandemig ddim yn gwahaniaethu: fe wnaeth effeithio ar bob cenhedlaeth, ym mhob cwr o Gymru. Fe wnaeth ei effeithiau, gan gynnwys pryderon iechyd meddwl, unigrwydd ac ansicrwydd ariannol, effeithio ar bob grŵp oedran, ac rydyn ni’n gwybod bod llawer o blant yn poeni am effaith y Coronafeirws ar bobl hŷn yn eu teulu.
“Fel comisiynwyr, rydyn ni’n cydnabod pŵer cysylltiadau rhwng y cenedlaethau. Rydyn ni’n ymdrechu i fod yn wlad sy’n trin pawb yn gyfartal, yn wlad sy’n rhydd o gasineb a gwahaniaethu ac yn galw am gryfhau cysylltiadau cynaliadwy rhwng y cenedlaethau ar ffordd Cymru tuag at adferiad.”
Dywedodd Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:
“Mae pobl yng Nghymru, beth bynnag fo’u hoed, yn wynebu nifer enfawr o heriau ar hyn o bryd, gan gynnwys yr argyfwng costau byw, iechyd meddwl ac arwahanrwydd cymdeithasol, tlodi tanwydd a lefelau uchel o anghydraddoldeb iechyd ac incwm. Mae atebion sy’n pontio’r cenedlaethau yn diogelu pawb wrth i ni ymdrechu i gael byd gwell i genedlaethau’r dyfodol.
“Gall cymunedau fynd i’r afael â phroblemau’r presennol a’r dyfodol ar yr un pryd os byddwn ni’n dod at ein gilydd ac yn cefnogi ein gilydd.”
Roedd y comisiynwyr yn aelodau cychwynnol o Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undod Rhwng Cenedlaethau, sydd wedi bod yn cwrdd ers mis Tachwedd 2020 i ddod â gwleidyddion, ymchwilwyr academaidd, ymarferwyr sydd â phrofiad o redeg prosiectau pontio’r cenedlaethau, a chynrychiolwyr pobl hŷn a phobl iau at ei gilydd gyda’r nod o hyrwyddo undod a dealltwriaeth rhwng cenedlaethau.
Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Undod Rhwng Cenedlaethau:
“Mae meithrin cysylltiadau a rhannu profiadau ar draws y rhaniad rhwng y cenedlaethau yn cyfoethogi pawb mewn cymdeithas – gan mai dim ond drwy feithrin cysylltiadau rydyn ni’n dod i sylweddoli pa mor gysylltiedig yw ein bywydau go iawn. Mae’r blynyddoedd diwethaf hyn wedi ynysu pobl o bob oed, ond mae’r ifanc iawn a’r hen iawn wedi gweld eu bywydau a’u harferion yn cael eu tarfu i raddau nas gwelwyd erioed o’r blaen.
Nod y Grŵp Trawsbleidiol ar Undod Rhwng Cenedlaethau yn y Senedd yw tynnu sylw at yr heriau cyffredin rydyn ni’n eu hwynebu, yn ogystal â chanfod ffyrdd y gall cenedlaethau fynd i’r afael â rhwystrau gyda’i gilydd a dod o hyd i ffyrdd o rannu llawenydd a chreadigrwydd. Rydw i’n hynod falch o fod yn gysylltiedig â gwaith y grŵp trawsbleidiol, ac i ychwanegu fy llais at lais y comisiynwyr wrth alw am fwy o gefnogaeth i waith sy’n pontio’r cenedlaethau: mae cymaint y gallwn ni ei gyflawni gyda’n gilydd.”