Mae undod rhwng cenedlaethau yn hanfodol i helpu i fynd i’r afael â Newid yn yr Hinsawdd, meddai’r Grŵp Trawsbleidiol
Mae aelodau Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar Undod Rhwng Cenedlaethau1 yn gweithio gyda’i gilydd i nodi ffyrdd o ddod â chenedlaethau gwahanol at ei gilydd mewn ysgolion a lleoliadau addysgol eraill er mwyn annog camau gweithredu newydd i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd.
Roedd effaith newid yn yr hinsawdd yn eitem allweddol ar yr agenda yng nghyfarfod diweddaraf y Grŵp, ac er bod y genhedlaeth iau yn aml yn gysylltiedig â’r mudiad newid yn yr hinsawdd, fe gytunodd yr aelodau fod gan bobl hŷn bryderon sylweddol hefyd, a rôl hanfodol i’w chwarae wrth fynd i’r afael â’r bygythiad hwn.
Roedd cyflwyniad gan Age Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod pobl hŷn mewn perygl penodol o effeithiau newid yn yr hinsawdd, sy’n effeithio ar eu lles a’u gallu i heneiddio’n dda. Mae hafau poethach yn creu risgiau iechyd i bobl hŷn, er enghraifft, yn enwedig y rheini sydd â phroblemau gyda’r galon a chyflyrau iechyd cronig eraill, tra bod gaeafau oerach yn cynyddu costau tanwydd ac yn gorfodi llawer i dlodi tanwydd.
Er bod stereoteipiau’n aml yn awgrymu nad yw pobl hŷn yn poeni am newid yn yr hinsawdd na’i effaith, ac nad ydynt yn barod i gymryd camau i ddiogelu’r amgylchedd, nid yw data yn adlewyrchu hyn. Yn hytrach, mae’n dangos bod 92% o bobl dros 65 oed yn poeni am newid yn yr hinsawdd a bod bron i dri chwarter y bobl dros 65 oed yn meddwl nad yw’r llywodraeth yn gwneud digon i ymateb i’r newid yn yr hinsawdd.2
Fodd bynnag, gall y mathau hyn o fythau a chamsyniadau greu tensiynau rhwng cenedlaethau a all fod yn rhwystr i weithredu. Felly, mae annog undod yn bwysig er mwyn gallu rhannu gwybodaeth ac ysbrydoli safbwyntiau ffres a syniadau newydd.
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Rydyn ni’n gwybod bod prosiectau newid hinsawdd sydd wedi dod â chenedlaethau at ei gilydd wedi bod yn llwyddiannus3 a bydd y camau gweithredu y mae’r Grŵp wedi cytuno arnynt yn galluogi mwy o waith fel hyn i ysbrydoli safbwyntiau newydd a syniadau newydd.
“Mae’n bwysig bod pobl o bob oed yn gweithio gyda’i gilydd i chwarae eu rhan i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a bydd gweithredu ar draws pob cenhedlaeth yn bwysig i gefnogi hyn.”
Dywedodd Delyth Jewell AS, Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Undod Rhwng Cenedlaethau:
“Ni ddylem weld yr argyfwng hinsawdd fel mater sy’n rhannu pobl: ar draws pob cenhedlaeth, rhaid i’n profiad o’r argyfwng hwn ein clymu gyda’n gilydd mewn penderfyniad cadarn. Mae llifogydd, tanau gwyllt a thywydd poeth eisoes yn difetha ein cymunedau, a byddai’n hawdd i ni golli gobaith a gorfodi cenedlaethau i gystadlu yn erbyn ein gilydd. Ond byddai gwastraffu ein hegni mewn ffordd o’r fath ond yn dwysáu unigrwydd; ni fyddai’n gwneud dim i fynd i’r afael â’r argyfyngau sy’n ein hwynebu.
“Mae cymaint o waith da’n cael ei wneud, yn pontio’r cenedlaethau, i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Mae cymaint y mae’n rhaid i ni ei ddathlu, fel prosiectau sy’n cysylltu cartrefi gofal ag ysgolion, comics sy’n cael eu datblygu i rannu straeon a gweithdai sy’n cysylltu gwahanol genedlaethau. Mae cadeirio’r Grŵp Trawsbleidiol ar Undod Rhwng Cenedlaethau bob amser yn fy atgoffa o’r gwaith gwych a heriol sy’n cael ei wneud ledled Cymru. Mae hynny’n rhoi gobaith i mi – ac mae angen i ni ddarganfod ffyrdd gwell o rannu’r straeon hynny.”
Ychwanegodd y Comisiynydd:
“Mae camsyniad yn aml nad yw pobl hŷn yn poeni am newid yn yr hinsawdd, rhywbeth nad yw’n wir, rhywbeth sy’n gosod cenedlaethau iau a hŷn yn erbyn ei gilydd ac sy’n cyfrannu at naratifau oedraniaethol ehangach sy’n gallu arwain at wahaniaethu.
“O ystyried maint y materion rydyn ni’n eu hwynebu, mae’n hanfodol bod cenedlaethau’n unedig ac yn gweithio gyda’i gilydd i fynd i’r afael â’r bygythiadau sy’n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd.”
DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
1 Sefydlodd y Comisiynydd y Grŵp Trawsbleidiol i hybu undod a dealltwriaeth rhwng cenedlaethau, gan gynnwys prosiectau sy’n dod â chenedlaethau iau a hŷn at ei gilydd, ac i edrych ar dystiolaeth ac a datblygu cynigion polisi a fyddai o fudd i’r genhedlaeth iau a’r genhedlaeth hŷn. Ar hyn o bryd mae gan y grŵp dros 50 o aelodau, gan gynnwys aelodau o’r Senedd Ieuenctid a grwpiau a sefydliadau pobl hŷn allweddol. Mae rhagor o wybodaeth am y Grŵp ar gael yma: https://busnes.senedd.cymru/mgOutsideBodyDetails.aspx?ID=730
2 Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23 yn gofyn i gyfranogwyr am eu ‘Lefel o Bryder am Newid yn yr Hinsawdd’. O’r rheini 65 oed a hŷn a ymatebodd, dywedodd 46% eu bod yn ‘bryderus iawn’, dywedodd 33% eu bod ‘yn eithaf pryderus’ a dywedodd 13% eu bod yn ‘ychydig yn bryderus’. https://www.llyw.cymru/arolwg-cenedlaethol-cymru-dangosydd-canlyniadau?_
3 Mae rhagor o, wybodaeth am Gomic yr Hinsawdd a gwaith y tîm OPTIC i gael ar eu gwefan: https://www.climatecomic.co.uk/cy/about