Angen Help?
Three older men having a conversation around a table with mugs overlayed with blue

Mae sefydliadau pobl hŷn ledled y DU yn galw ar y Prif Weinidog i gymryd camau pellach i gefnogi pobl hŷn sy’n cael eu heffeithio gan y rhyfel yn Wcráin

i mewn Newyddion

Mae sefydliadau allweddol sy’n gweithio gydag ac ar ran pobl hŷn ledled y DU1 wedi dod at ei gilydd i alw ar y Prif Weinidog i gymryd camau pellach2 i gefnogi pobl hŷn yn Wcráin, a’r rheini sy’n ceisio lloches mewn gwledydd eraill, a sicrhau bod ein hymateb i’r argyfwng dyngarol cynyddol yn ystyried yr effeithiau a’r heriau penodol y bydd pobl hŷn yn eu hwynebu.

Mewn llythyr ar y cyd sy’n nodi’r camau y mae angen eu cymryd, maent wedi tynnu sylw at y ffaith y bydd llawer o bobl hŷn yn Wcráin yn cael eu dal a’u hynysu yn eu cartrefi, gyda chefnogaeth gyfyngedig ar gael gan deuluoedd, ffrindiau a chymdogion, gan na fyddant yn gallu gwneud y daith beryglus tuag at ddiogelwch oherwydd anawsterau symud neu iechyd gwael.

Mae’r llythyr hefyd yn amlinellu pryderon na fydd pobl hŷn yn gallu cael gafael ar gyflenwadau hanfodol, gan gynnwys bwyd a meddyginiaethau, yn ogystal â chyfleustodau sylfaenol a dŵr glân, a fydd yn peryglu eu hiechyd hyd yn oed yn fwy.

Ochr yn ochr â galw am weithredu i sicrhau bod asiantaethau dyngarol yn gallu darparu cyflenwadau a chymorth i bobl hŷn, mae’r llythyr hefyd yn galw ar Lywodraeth y DU i gymryd camau pellach i gael gwared ar gyfyngiadau fisa er mwyn sicrhau bod mwy o bobl hŷn yn gallu cael diogelwch a noddfa yn y DU.

Mae’r llythyr wedi cael ei gyd-lofnodi gan nifer o sefydliadau allweddol sy’n gweithio ar ran pobl hŷn ledled y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys Comisiynwyr Pobl Hŷn yng Nghymru a Gogledd Iwerddon ac Age International.

Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:

“Bydd llawer ohonom wedi teimlo’n ddi-rym wrth wylio adroddiadau newyddion sy’n tynnu sylw at y ffyrdd y mae bywydau pobl wedi cael eu chwalu gan ymosodiad Rwsia, a dyna pam ei bod yn hanfodol ein bod yn cymryd camau lle gallwn ni er mwyn cefnogi pobl hŷn yn Wcráin a’r rheini sy’n ffoi rhag y rhyfel.

“Rwy’n poeni’n fawr y bydd llawer o bobl hŷn yn Wcráin sydd eisoes wedi’u dal, wedi’u hynysu ac sy’n agored i niwed yn methu â chael gafael ar ddŵr glân, bwyd, meddyginiaethau a chyfleustodau, ac na fydd pobl hŷn y mae angen iddynt ddianc i rywle diogel yn gallu gwneud hynny.

“Dyna pam fy mod wedi dod â sefydliadau allweddol sy’n gweithio ar ran pobl hŷn ynghyd i alw am ragor o weithredu gan Lywodraeth y DU i sicrhau bod cymorth ychwanegol yn cael ei ddarparu i bobl hŷn yn Wcráin a’i gwneud yn haws i ffoaduriaid hŷn ddianc a dod o hyd i loches a diogelwch mewn gwledydd cyfagos neu yma yn y DU.”

Dywedodd Eddie Lynch, Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon:

“Mae’n hanfodol bod y DU yn ystyried sut mae’r argyfwng cynyddol yn Wcráin yn effeithio’n benodol ar bobl hŷn, llawer ohonynt yn methu â gwneud y daith hir a pheryglus tuag at ddiogelwch oherwydd problemau iechyd neu symudedd, gan eu gwneud nhw’n arbennig o agored i niwed. Mae’n hanfodol bod asiantaethau dyngarol yn cael mynediad at y bobl hŷn hyn sy’n agored i niwed er mwyn iddynt gael yr holl adnoddau sydd eu hangen arnynt. I’r bobl hŷn hynny na allant ffoi, bydd mynediad at gyflenwadau hanfodol fel tanwydd i wresogi eu cartref mewn tywydd oer hefyd yn dod yn fwyfwy anodd. Rwy’n gobeithio, drwy ddod â sefydliadau pobl hŷn eraill ledled y DU ynghyd, y bydd ein llais unedig yn cael ei glywed yn uchel ac yn glir gan lywodraeth y DU ac y byddant yn gwneud paratoadau brys i sicrhau ein bod yn barod i groesawu ffoaduriaid hŷn pan fyddant yn cyrraedd ein glannau.”

Dywedodd Chris Roles, Rheolwr Gyfarwyddwr yn Age International:

“Gwyddom o’n gwaith mewn ardaloedd gwrthdaro yn nwyrain Wcráin ers 2014, fod pobl hŷn yn eithriadol o agored i niwed yn y sefyllfaoedd erchyll hyn. Bydd llawer o bobl hŷn a’r rheini sydd ag anableddau yn methu dianc rhag y trais: efallai eu bod yn gaeth i’w cartref neu’n methu cerdded heb gymorth. Nid oes gan rai y gallu i wneud y daith hir o’r wlad oherwydd bod eu hiechyd yn wael, neu oherwydd eu bod yn dioddef o osteoporosis neu glefyd y galon.

“Rydyn ni’n gweithio gyda’n partneriaid yn Wcráin i ddarparu pecynnau brys bwyd a dŵr, pecynnau meddygol, hylendid ac urddas, a chymorth mewn ymateb i’r trawma y bydd cynifer yn ei brofi. Ac i’r bobl hŷn hynny a’u teuluoedd sy’n croesi i wledydd cyfagos, rydyn ni eisiau darparu’r holl bethau hyn yn ogystal â llochesau ar eu cyfer.”

DIWEDD

 

 


Nodiadau i Olygyddion:

1 Rhestr lawn o’r Llofnodwyr:

Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Chris Roles, Rheolwr Gyfarwyddwr Age International

Caroline Abrahams, Cyfarwyddwr Elusen, Age UK

Eddie Lynch, Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon

Donald Macaskill, Prif Weithredwr Scottish Care

Brian Sloan, Prif Weithredwr, Age Scotland

Linda Robinson, Prif Weithredwr, Age NI

Victoria Lloyd, Prif Weithredwr, Age Cymru

John Palmer, Cyfarwyddwr Polisi a Chyfathrebu, Independent Age

Carole Easton, Prif Weithredwr, Canolfan Heneiddio’n Well

Chris Lynch, Dirprwy Brif Swyddog Gweithredol, Alzheimer’s Disease International

David Sinclair, Cyfarwyddwr, ILC-UK

Syr Myles Wickstead

Andrew Purkis OBE, cyn Gadeirydd Action Aid

Marissa Conway, Cyd-sylfaenydd a Chyfarwyddwr Gweithredol, Centre for Feminist Foreign Policy

2 Mae llofnodwyr y llythyr yn galw am y camau canlynol gan Lywodraeth y DU i gefnogi pobl hŷn yn Wcráin a’r rheini sy’n chwilio am loches mewn gwledydd eraill:

  • Defnyddiwch bob llwybr posibl i sicrhau bod mynediad dyngarol yn cael ei roi i holl ddinasyddion Wcráin, gan gynnwys pobl hŷn.
  • Sicrhau bod sylw penodol yn cael ei roi i anghenion a hawliau pobl hŷn Wcráin a’r gwledydd cyfagos wrth baratoi a gweithredu’r ymateb dyngarol gyda llywodraethau cenedlaethol a sefydliadau rhyngwladol eraill.
  • Sicrhau bod pobl hŷn yn Wcráin neu’r rheini sy’n chwilio am loches mewn gwledydd cyfagos yn gallu cael gafael ar gyflenwadau meddygol, meddyginiaeth a chymhorthion symud priodol drwy roddion, cyllid neu rannu arbenigedd technegol.
  • Dileu’r gofynion fisa ar Wcreiniaid sy’n ffoi rhag y rhyfel i sicrhau bod pobl hŷn heb berthnasau yn y DU yn gallu gofyn am loches yma.
  • Ystyried anghenion a hawliau Wcreiniaid hŷn sy’n chwilio am loches yn y Deyrnas Unedig a pha gymorth y gallai fod ei angen arnynt pan fyddant yn cyrraedd.
  • Parhau i ddarparu cefnogaeth i elusennau sy’n ymwneud â’r ymateb dyngarol gan gynnwys HelpAge International ac Age International i sicrhau eu bod nhw a’u partneriaid yn gallu darparu’r gefnogaeth hollbwysig sydd ei hangen ar bobl hŷn yn Wcráin.

Angen siarad â rhywun? Ebostiwch Ni Neu Gyrrwch Neges