Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i eithrio pobl hŷn sydd ar yr incwm isaf o’i Chynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf, sy’n rhoi £200 i aelwydydd sydd mewn perygl i helpu gyda chostau cynyddol tanwydd. Mae’r diffyg cymorth hwn i bobl hŷn gan Lywodraeth Cymru mewn perygl o waethygu’r anghydraddoldebau presennol a pheryglu iechyd a llesiant rhai o’r bobl hŷn mwyaf agored i niwed yng Nghymru.
Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn ymuno ag amrywiaeth o sefydliadau eraill, gan gynnwys Age Cymru, Sefydliad Bevan, Cyngor ar Bopeth Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, National Energy Action Cymru ac Oxfam Cymru, i fynnu bod y cymhwysedd ar gyfer y Cynllun yn cael ei ymestyn i gynnwys pobl hŷn sy’n hawlio Credyd Pensiwn.
Mae’r ffigurau diweddaraf yn dangos bod bron i 1 person hŷn o bob 5 yng Nghymru yn byw mewn tlodi, a bod incwm wythnosol y rheini sy’n hawlio Credyd Pensiwn yn ddim ond £177.10 i un person neu £270.30 i gwpl. Heb unrhyw gyfleoedd i ychwanegu at yr incwm hwn, yr unig opsiwn sydd ar gael i ymdopi â’r cynnydd trychinebus yng nghostau tanwydd yw i’r aelwydydd hyn ddefnyddio llai o wres neu gwtogi ar hanfodion eraill, fel bwyd. Mae’r effeithiau hyn yn debygol o gael eu teimlo waethaf gan fenywod hŷn, yn enwedig y rheini sy’n byw ar eu pen eu hunain, sydd mewn mwy o berygl o fyw mewn tlodi yn barod.
Mae gwerth y cynlluniau sydd eisoes ar waith i gefnogi pobl hŷn wedi bod yn disgyn dros yr 20 mlynedd diwethaf ac fe’u cynlluniwyd i helpu aelwydydd i ymdopi â chostau arferol tanwydd, yn hytrach na’r lefelau rhyfeddol rydyn ni’n eu gweld y gaeaf yma.
Mae’r sefyllfa hyd yn oed yn waeth i’r amcangyfrif o 4 o bob 10 o bobl sy’n gymwys i gael Credyd Pensiwn ac nad ydynt yn hawlio’r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru gymryd camau pellach i godi ymwybyddiaeth o sut mae hawlio a gweithio gyda sefydliadau partner i sicrhau bod pobl hŷn yn cael eu cefnogi i hawlio’r hyn y mae ganddyn nhw hawl iddo.
I’r bobl hŷn hynny sydd ag anawsterau ariannol difrifol, mae Cronfa Cymorth Dewisol Llywodraeth Cymru ar gael i ddarparu cymorth, fodd bynnag, rhaid gwneud mwy i godi ymwybyddiaeth o fodolaeth y gronfa hon a dylai Llywodraeth Cymru symleiddio ac ehangu’r meini prawf cymhwysedd i ddarparu cymorth i ragor o aelwydydd.
Wrth ddisgwyl cynnydd pellach yn y cap ar brisiau tanwydd dros y misoedd nesaf, rhaid i Lywodraeth Cymru ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer gaeaf 2022-23 i sicrhau bod pobl hŷn yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnynt, cyn misoedd y gaeaf, a bod mesurau’n cael eu rhoi ar waith i fynd i’r afael â phenderfynyddion ehangach tlodi tanwydd, gan gynnwys ehangu rhaglenni i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl hŷn.
Heb gymorth ychwanegol, bydd llawer o bobl hŷn sydd ar yr incwm isaf yn wynebu’r dewis anodd a pheryglus rhwng gwresogi neu fwyta, a allai beryglu eu hiechyd meddwl a’u hiechyd corfforol a bod angen cymorth ychwanegol arnynt gan wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i gefnogi’r bobl hŷn hyn drwy gymryd y camau a amlinellir yn y datganiad hwn ac, yn benodol, ymestyn y cymhwysedd ar gyfer y Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf i gynnwys pobl hŷn sy’n hawlio Credyd Pensiwn.
Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Victoria Lloyd, Prif Weithredwr Age Cymru
Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr, Sefydliad Bevan
Rebecca Woolley, Cyfarwyddwr, Cyngor ar Bopeth Cymru
Chris Jones, Prif Weithredwr, Gofal a Thrwsio Cymru
Ben Saltmarsh, Pennaeth Cymru, National Energy Action Cymru
Sarah Rees, Pennaeth Oxfam Cymru