Mae Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru yn galw ar arweinwyr pleidiau i ymrwymo i wella bywydau pobl hŷn wrth iddynt osod eu polisïau ar gyfer yr Etholiad Cyffredinol sydd i’w gynnal yn fuan.
Mae’r Comisiynwyr yn galw am weithredu er mwyn rhoi mwy o sicrwydd ariannol i bobl hŷn sy’n ei chael hi’n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, ac i Lywodraeth nesaf y DU fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, sy’n darparu cymorth hanfodol i lawer o bobl hŷn.
Maent wedi ysgrifennu at arweinwyr y pleidiau, yn galw ar faniffestos ar gyfer yr etholiad i gynnwys ymrwymiadau i gadw’r “clo trebl” ar bensiynau, cynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio’r hawliadau ariannol fel Pensiwn Credyd a lwfans Mynychu, a darparu cyllid i barhau â’r arfer o roi trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed.
Maent hefyd wedi gofyn am roi iawndal i’r miloedd o ferched hŷn a gafodd eu heffeithio gan y cynnydd cyflym a wnaed i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, yn ogystal ag ymrwymiad na fydd rhagor o leihad yn hawliadau ariannol pobl hŷn.
Dywedodd Eddie Lynch, Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon:
“Er bod llawer o’r materion sy’n cael effaith ar bobl hŷn yng Ngogledd Iwerddon yn faterion datganoledig, cyfrifoldeb llywodraeth y DU yw materion allweddol y polisi sy’n effeithio ar ein pobl hŷn.
“Mae darparu cyllid i sicrhau y gellir parhau â’r arfer o roi trwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed, rhoi cymorth i ferched sydd wedi cael eu heffeithio gan y newidiadau i Oedran Pensiwn y Wladwriaeth, sicrhau bod “clo trebl” pensiynau’n parhau a sicrhau nad oes rhagor o golled i hawliadau pobl hŷn yn bryderon mawr i’n pobl hŷn. Gall hefyd gael effaith enfawr ar ansawdd bywyd llawer o bobl hŷn.
“Rydw i’n gobeithio y bydd pob plaid a phob ymgeisydd yn ymrwymo i gefnogi pobl hŷn yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a gweddill y DU drwy helpu i fynd i’r afael â’r materion rydw i a Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru wedi eu hamlygu yn ein gohebiaeth.”
Dywedodd Heléna Herklots CBE, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru:
“Er mai cyfrifoldeb Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon a Llywodraeth Cymru yw llawer o’r materion sy’n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, mae Llywodraeth y DU yn cadw rheolaeth dros feysydd allweddol sy’n effeithio ar fywydau pobl hŷn, fel pensiynau a hawliadau ariannol. Mae penderfyniadau Llywodraeth y DU ynglyn â gwario yn cael effaith sylweddol ar y gyllideb sydd ar gael i’r gweinyddiaethau datganoledig.
“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gweld dirywiad yn yr hawliau a’r hawliadau sy’n cefnogi diogelwch ariannol pobl hŷn, yn ogystal â chynnydd yn y nifer o bobl hŷn sy’n byw mewn tlodi. Yn ogystal â hyn, mae cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus wedi cael ei dorri’n sylweddol, gan leihau’r help a’r cymorth hollbwysig sydd ar gael sy’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl.
“Mae’n hanfodol gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r materion hyn. Dyna pam rydw i a Chomisiynydd Gogledd Iwerddon yn galw, gyda’n gilydd, ar bob plaid i gynnwys ymrwymiadau ystyrlon o fewn eu maniffestos a fydd yn gwella bywydau pobl hŷn, yn cynyddu eu diogelwch ariannol ac yn eu cefnogi i heneiddio’n dda.”